Rheolaethau arbennig
Mae'r Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (TCPA 1990) yn cynnwys rheolau arbennig mewn perthynas â: coed, tir y mae ei gyflwr wedi dod yn andwyol i amwynderau'r gymdogaeth, a hysbysebion.
Y brif ddarpariaethau ar gyfer gwarchod coed yw:
a) dyletswydd ar ACLlau i sicrhau, wrth roi caniatâd cynllunio, i gynnwys darpariaethau ddigonol ar gyfer cadw a phlannu coed;
b) pŵer i ACLlau wneud gorchmynion cadw coed i warchod coed neu goetiroedd penodol er lles yr amwynder.
Ble mae cyflwr y tir wedi dod yn andwyol i amwynderau'r gymdogaeth, mae TPCA 1990 yn rhoi pwer i'r ACLl gyflwyno hysbysiad i'r perchennog neu'r deliad, yn gorfodi iddo gymryd camau penodol i wella cyflwyr y tir. Bydd yr hysbysiad yn amlinellu'r camau i'w cymryd ac amser i'w rhoi ar waith. Mae gan y person sydd wedi derbyn yr hysbysiad hawl i apelio i'r llys ynadon.
Mae methiant i gydymffurfio â hysbysiad yn drosedd, a gall yr ACLl ddod ar y tir, gwneud y gwaith sy'n ofynnol a galw ar y perchennog i dalu'r gost.
Mae TCPA 1990 yn gosod y fframwaith ar gyfer rheoli hysbysebion. Mae manylion technegol rheoli hysbysebion wedi'u cynnwys mewn is-ddeddfwriaeth.