Skip to main content

Rheoleiddio gwarchod plant a gofal dydd i blant o dan ddeuddeg oed

Rheoleiddio gwarchod plant a gofal dydd i blant o dan ddeuddeg oed

Mae Rhan II Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn nodi’r system ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru. Mae gan Weinidogion Cymru’r swyddogaeth o reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru. Mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn y cyswllt hwn yn cael eu harfer gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Ystyr gwarchod plant a gofal dydd

Mae person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw’r person yn gofalu am un neu fwy o blant dan ddeuddeg oed ar safle domestig am dâl (adran19(2)).

Mae person yn darparu gofal dydd i blant os yw’r person yn darparu gofal ar unrhyw adeg i blant dan ddeuddeg oed ar safle heblaw safle domestig (adran19(3)).

Diffinnir safle domestig at y diben hwn fel safle sy’n cael ei ddefnyddio’n llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat.

Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 yn nodi’r eithriadau i gofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd.

Cofrestru

Mae Rhan II y Mesur yn gwneud darpariaeth ar gyfer cofrestru a’r weithdrefn gofrestru. Mae’n rhaid i unrhyw berson sy’n darparu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd gofrestru i wneud hynny.

Mae’n rhaid i berson sydd am gael ei gofrestru o dan Ran II gyflwyno cais i gofrestru yn unol ag adran 24 mewn perthynas â gofalwyr plant ac adran 26 mewn perthynas â darparwyr gofal dydd a’r Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (“y Rheoliadau”).

Gwarchodwyr plant

Mae’n rhaid i gais i gofrestru fel gwarchodwr plant fodloni gofynion adran 24(2) o'r Mesur. Os yw’r awdurdod cofrestru, AGC, yn fodlon nad yw’r ymgeisydd wedi’i anghymwyso rhag cofrestru a bod gofynion a ragnodir y Rheoliadau wedi’u bodloni ac yn debygol o barhau i gael eu bodloni, yna mae’n rhaid caniatáu’r cais, neu mae’n rhaid iddo ei wrthod fel arall.

Darparwyr gofal dydd

Gall unigolyn neu sefydliad wneud cais i gael ei gofrestru fel darparwr Gofal Dydd. Gall sefydliad fod yn gymdeithas gorfforedig neu anghorfforedig.

Mae adran 26 o'r Mesur yn nodi’r prawf ar gyfer caniatáu neu wrthod cais i gofrestru. Os yw’r awdurdod cofrestru, AGC, yn fodlon nad yw’r ymgeisydd wedi’i anghymwyso rhag cofrestru a bod gofynion y Rheoliadau wedi’u bodloni ac yn debygol o barhau i gael eu bodloni, yna mae’n rhaid caniatáu’r cais, neu mae’n rhaid iddo ei wrthod fel arall.

Mewn unrhyw achos pan fo cais i gofrestru yn cael ei ganiatáu, mae’n rhaid i'r awdurdod cofrestru roi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd (adran 28). Gall cofrestriad gael ei ganiatáu naill ai'n ddiamod neu gydag amodau, fel y gwêl yr awdurdod cofrestru yn dda (adran 29).

Os yw’r awdurdod cofrestru yn cynnig gwrthod y cais i gofrestru, mae’n rhaid iddo roi hysbysiad o’i fwriad i wrthod y cais (adran 36).

Yn ogystal â chael pwerau i wrthod neu ganiatáu ceisiadau, gall yr awdurdod cofrestru amrywio, dileu neu osod unrhyw amod ar gofrestriad person ar unrhyw adeg ar ôl cofrestru am y tro cyntaf.

Yn yr un modd, gall person cofrestredig gymryd camau mewn perthynas â’u cofrestriad eu hunain a gallant wneud cais i:

  • amrywio neu ddileu unrhyw amodau sydd mewn grym mewn perthynas â’u cofrestriad, diddymu eu cofrestriad yn wirfoddol,
  • atal eu cofrestriad yn wirfoddol dros dro, neu
  • ddileu neu amrywio cyfnod unrhyw waharddiad.

Gorfodi

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau gorfodi sifil amrywiol y gellir eu crynhoi fel a ganlyn:

  • Gwrthod cofrestru – adran 24 mewn cysylltiad â gwarchodwyr plant ac adran 26 am ddarparwyr gofal dydd
  • Caniatáu cofrestru gydag amodau na chytunwyd arnynt yn flaenorol – adran 29
  • Amrywio, dileu neu osod amodau – adran 29
  • Dileu cofrestriad – adran 31
  • Atal cofrestriad dros dro – Rheoliad 40 y Rheoliadau
  • Dileu cofrestriad ar frys – adran 34
  • Amrywio, dileu neu osod amodau ar frys – adran 35

Mewn achos o gamau nad ydynt yn rhai brys, mae’n rhaid i AGC roi Hysbysiad o Fwriad yn hysbysu’r person dan sylw o’u bwriad i gymryd y camau canlynol (adran 36):

  • gwrthod cais i gofrestru;
  • gosod amod newydd ar gofrestriad person;
  • amrywio neu ddileu unrhyw amod ar gofrestriad person;
  • gwrthod caniatáu cais i amrywio neu ddileu unrhyw amod o’r fath;
  • dileu cofrestriad person.

Mae’n rhaid i’r Hysbysiad o Fwriad nodi rhesymau AGC dros gymryd y cam a hysbysu’r person dan sylw o’u hawliau dan adran 36.

Efallai na fydd AGC yn cymryd y cam a nodir yn yr Hysbysiad tan i 28 diwrnod fynd heibio ers ei gyflwyno. Gall y derbynnydd wrthwynebu i’r cam gael ei gymryd ac mae ganddo hawl i gyflwyno achos ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Os yw AGC yn penderfynu cymryd y cam (p’run a yw’r derbynnydd yn gwrthwynebu ai peidio), mae’n rhaid iddynt hysbysu’r derbynnydd mewn Hysbysiad o Benderfyniad. Yn y sefyllfaoedd canlynol, ni fydd y penderfyniad yn dod i rym tan i’r cyfnod ar gyfer apelio fynd heibio neu, neu os cyflwynir apêl, yr amser y penderfynir ar yr apêl:

  • gosod amod newydd ar gofrestriad person;
  • amrywio neu ddileu unrhyw amod a osodir ar gofrestriad person;
  • dileu cofrestriad person.

Fodd bynnag, gall penderfyniad ddod i rym cyn hyn os yw person yn hysbysu AGC nad ydynt yn bwriadu apelio.

Mae adran 37 y Mesur yn darparu’r hawl i geisydd/person cofrestredig apelio yn erbyn unrhyw benderfyniadau i’r tribiwnlys Haen-gyntaf.

Mae darpariaeth i alluogi’r awdurdod cofrestru i ddileu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd ar frys. Mewn achosion o’r fath, nid oes yn rhaid rhoi Hysbysiad o Fwriad. Mae’n rhaid i gais am ddileu ar frys gael ei wneud i’r Llys Teulu. Os oes gorchymyn yn cael ei wneud mae’n dod i rym ar unwaith ac mae’n rhaid i’r gwasanaeth sydd wedi’i ddileu rhoi’r gorau i weithredu. Mae’r hawl i apelio yn adran 37 yn berthnasol i benderfyniadau o’r fath.

Mae darpariaeth hefyd sy’n galluogi’r awdurdod cofrestru i amrywio neu ddileu amod ar frys. I gymryd y cam hwn bydd yn rhaid rhoi hysbysiad o benderfyniad sy’n dod i rym ar unwaith. Mae’r hawl i apelio yn a.37 y berthnasol i benderfyniadau i amrywio neu ddileu amod.

Mae Rheoliadau 40 i 45 yn nodi’r darpariaethau mewn perthynas â gwahardd gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd. Y broses ar gyfer gwneud hyn yw cyhoeddi rhybudd o benderfyniad, a ddaw i rym ar unwaith. Lle bodlonir y trothwy ar gyfer gwaharddiad, mae gan AGC y pŵer i wahardd am gyfnod o 6 wythnos. Gellir ymestyn y gwaharddiad hwn am gyfnodau pellach o 6 wythnos. Ni chaiff gwaharddiad (ar yr un seiliau) ymestyn y tu hwnt i 12 wythnos mewn cyfnod 12 mis, oni bai bod gofynion penodol yn cael eu bodloni. Gall person ofyn i’w gwaharddiad gael ei ddileu ar unrhyw adeg drwy ysgrifennu i’r swyddfa ranbarthol a gyhoeddodd yr Hysbysiad gwaharddiad. Mae Rheoliad 45 yn darparu hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wahardd neu benderfyniad i wrthod dileu gwaharddiad os gofynnir am hynny.

Swyddogaethau arolygu

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau arolygu amrywiol (gweler adrannau 41 i 43 o'r Mesur) yng nghyswllt eu swyddogaeth fel awdurdod cofrestru mewn perthynas â gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd.

Maent yn cynnwys, er enghraifft, y pŵer i gael mynediad ac arolygu safleoedd a’r pŵer i atafaelu a diddymu dogfennau a deunyddiau os gallant fod yn dystiolaeth o fethiant i gydymffurfio ag amodau neu ofynion a roddwyd ar y darparwr gwasanaeth.

O dan amgylchiadau penodol, gall AGC wneud cais i’r Llys am warant yn awdurdodi unrhyw gwnstabl i gynorthwyo AGC i ymarfer eu pwerau arolygu (adran 43).

Troseddau


Mae’r Mesur yn darparu hefyd ar gyfer troseddau amrywiol mewn cysylltiad â gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd.

  • Gweithredu fel gwarchodwr plant yn groes i hysbysiad gorfodi – adran 21(5)
  • Darparu gofal dydd heb gofrestru i wneud hynny – adran 23(1)
  • Methu â chydymffurfio ag amod cofrestru – adran 29(4)
  • Methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau – adran 30(4)
  • Gweithredu fel gwarchodwr plant yn ystod gwaharddiad – adran 32(5)
  • Darparu gofal dydd yn ystod gwaharddiad – adran 32(6)
  • Rhwystro person rhag arfer eu pwerau dan adrannau 41 neu 42 – adran 42(7)(a)
  • Methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad dan adran 42 - adran 42(7)(b)
  • Gwneud datganiad ffug neu gamarweiniol yn fwriadol mewn cais i gofrestru – adran 46(1)
  • Gweithredu fel gwarchodwr plant er ei fod wedi’i anghymhwyso rhag cofrestru – adran 39 (3)
  • Darparu gofal dydd neu ymwneud yn uniongyrchol â rheoli gofal dydd, neu fod â budd ariannol mewn darpariaeth gofal dydd ond wedi’i anghymhwyso rhag cofrestru – adran 39 (3)
  • Cyflogi person mewn cysylltiad â darpariaeth gofal dydd sydd wedi’i ddiarddel rhag cofrestru – adran 39(3)

Mae’r holl droseddau uchod yn droseddau diannod yn unig. Y cosbau yw naill ai dirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu garchar am gyfnod nad yw'n hwy na 51 wythnos.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021