Rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol
Rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol
Mae’r drefn bresennol yn ymwneud â rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn seiliedig ar ddarpariaethau yn Rhan 3 o Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a’r rheolau, y rheoliadau a'r codau ymarfer cysylltiedig a wneir o dan y darpariaethau hynny.
Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC).
Mae Rhan 3 o Ddeddf 2016 yn darparu ar gyfer parhad y corff corfforaethol o’r enw Cyngor Gofal Cymru, a ailenwyd Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC).
Prif amcan GCC wrth gynnal ei swyddogaethau yw gwarchod, hyrwyddo a chynnal diogelwch a llesiant y cyhoedd yng Nghymru. Rhaid i GCC ymarfer ei swyddogaethau gyda golwg ar hybu a chynnal:
- safonau uchel yn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal a chymorth;
- safonau uchel mewn ymddygiad ac ymarfer ymysg gweithwyr gofal cymdeithasol;
- safonau uchel mewn hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol; a
- ffydd y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol.
Mae cyfansoddiad GCC, ei bwerau a’i ddyletswyddau wedi’u nodi yn Atodlen 2 o Ddeddf 2016.
Ceir diffiniad o weithwyr gofal cymdeithasol yn adran 79(1) o Ddeddf 2016, sef person:
- sy’n ymgymryd â gwaith cymdeithasol perthnasol (gweithiwr cymdeithasol);
- sy’n rheoli man y darperir gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo neu ohono;
- sydd, yn ystod ei gyflogaeth gyda darparwr gwasanaeth, yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr hwnnw; neu
- sydd, o dan gontract am wasanaethau, yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth.
Gall rheoliadau o dan adran 79(2)(b) o Ddeddf 2016 ddarparu y bydd personau o ddisgrifiadau eraill a nodir yn adran 79(3) o'r Ddeddf honno yn cael eu trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) 2016 yn nodi personau ychwanegol, at ddibenion swyddogaethau GCC o dan adrannau 68(2) (“Amcanion GCC”), 112 (“Codau ymarfer”), 114 (“Cymeradwyo cyrsiau etc.”) a 116 (“Swyddogaethau eraill GCC mewn cysylltiad ag addysg a hyfforddiant”) o Ddeddf 2016, sydd i'w hystyried yn weithwyr gofal cymdeithasol.