Skip to main content

Torri cyfamod

Beth yw cyfamod?

Rhwymedigaeth ar un parti i'r llall i wneud, neu beidio â gwneud, rhywbeth yw cyfamod. 
Fel arfer, bydd gan denant a landlord gyfamodau y bydd angen iddynt gydymffurfio â nhw mewn prydles. 
Gall teitl rhydd-ddaliadol hefyd gynnwys cyfamodau. Gall cyfamod gyfyngu ar sut y gellir defnyddio'r tir er budd tir perchennog arall ac ymrwymo olynwyr mewn teitl. Nid yw cyfamodau cadarnhaol, fel cyfrannu at gynnal a chadw waliau, fel arfer yn ymrwymo olynwyr mewn teitl oni bai fod yna gadwyn indemniad. 
Mae torri cyfamod yn digwydd os nad yw parti wedi cydymffurfio â chyfamod. 

Pa gyfamodau y gellid dod o hyd iddynt mewn prydles?

Landlord  Tenant
Darparu'r tenant â mwynhad mewn heddwch Talu'r rhent
Darparu'r gwasanaethau Talu'r tâl gwasanaeth
Yswirio'r eiddo Cael cydsyniad y landlord wrth aseinio’r brydles
Adfer yr eiddo pan fydd wedi cael ei ddifrodi gan risg a yswirir

Cadw'r eiddo hyd at safon sy'n ofynnol gan y brydles o safbwynt atgyweirio a chyflwr 

Beth yw’r opsiynau sydd ar gael i'r landlord pan fo tenant wedi torri cyfamod (ac eithrio ar gyfer methiant i dalu’r rhent)? 

Ar gyfer y rhan fwyaf o denantiaid, o ran cyfamodau sydd wedi cael eu torri (ac eithrio methiant i dalu rhent), mae'n bosibl y gall y landlord wneud y canlynol (fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar y math o gyfamod sy'n cael ei dorri, beth mae'r brydles yn ei ddweud, disgresiwn y llysoedd / Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau (pa bynnag un sy'n berthnasol), a'r amgylchiadau ym mhob achos): 

  • Fforffedu'r brydles – byddai'r brydles yn dod i ben i bob pwrpas, unwaith y byddai prosesau penodol wedi cael eu cynnal. Mae'n rhaid i landlord hefyd ofalu i beidio 'hepgor' y toriad, a fyddai'n golygu bod y landlord, drwy ei ymddygiad, yn trin prydles y tenant fel prydles sy’n parhau, gan golli'r hawl i fforffedu am y toriad hwnnw. Fodd bynnag, mae hyn yn llai o bryder ar gyfer landlord lle mae'r toriad yn 'doriad parhaus'. 
  • Perfformiad penodol – gorfodi tenant i gyflawni rhwymedigaeth yn y brydles. 
  • Iawndal – rhoi'r landlord yn ôl yn y sefyllfa y byddai wedi bod ynddi pe byddai'r tenant wedi cydymffurfio â'r cyfamod. 
  • Gwaharddebau – ei gwneud yn ofynnol i denant gyflawni, neu beidio â chyflawni, cyfamod. 
  • Hawliad meddiant mewn perthynas â thenantiaeth sicr neu denantiaeth fyrddaliadol sicr. 

Torri rhwymedigaethau atgyweirio

Gallai prydles ganiatáu landlord i gyflwyno hysbysiad i'r tenant a chael mynediad i’r eiddo i gyflawni rhwymedigaethau atgyweirio'r tenant pan fo'r tenant yn methu gwneud hynny. Gall y landlord adfer y costau o wneud hynny gan y tenant wedyn. 

Mae hyn yn aml yn gam unioni amgen a geisir gan landlordiaid. 

Camau unioni ar gyfer peidio â thalu rhent

Pan fo tenant mewn ôl-ddyledion rhent, mae'n bosibl y gallai'r landlord wneud y canlynol (fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar beth mae'r brydles yn ei ddweud, amgylchiadau pob achos, a disgresiwn y llysoedd / Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau (pa bynnag un sy'n berthnasol) pan fo hawliadau yn cael eu gwneud iddynt. Mae hefyd yn bwysig fod y prosesau cywir yn cael eu dilyn): 

  • Cychwyn hawliad meddiant mewn perthynas â thenantiaeth sicr neu denantiaeth fyrddaliadol sicr yn unig
  • Cychwyn achos i gasglu ôl-ddyledion rhent
  • Mynd ar drywydd tenantiaid blaenorol a gwarantwyr mewn amgylchiadau penodol 
  • Defnyddio arian o flaendal rhent y tenant
  • Fforffedu'r brydles – byddai'r brydles yn dod i ben yn dilyn prosesau ac amgylchiadau penodol. Mae'n rhaid i landlord hefyd ofalu i beidio â 'hepgor' y toriad, a fyddai'n golygu bod y landlord, drwy ei ymddygiad, yn trin prydles y tenant fel prydles sy’n parhau, gan golli'r hawl i fforffedu am y toriad hwnnw.

Toriadau 'unwaith ac am byth' yn erbyn toriadau parhaus

Enghraifft o doriad unwaith ac am byth yw toriad o'r gofynion ynghylch aseinio. Yn yr achos hwn, pan fo'r landlord yn hepgor ei hawl i fforffedu, mae'r landlord yn colli ei hawl i fforffedu mewn perthynas â'r toriad hwn. 

Enghraifft o doriad parhaus yw torri rhwymedigaeth i yswirio'r eiddo. Yma, os bydd landlord yn hepgor ei hawl i fforffedu, mae'r landlord yn cael hawl newydd i fforffedu'r brydles mewn perthynas â'r toriad y diwrnod canlynol. 
Beth yw'r opsiynau sydd ar gael i'r tenant pan fo landlord yn torri cyfamod? 

Gall tenant ddod â hawliad yn erbyn y landlord am dorri cyfamod. Gan ddibynnu ar yr hyn y mae'r brydles yn ei ddweud, amgylchiadau pob achos, a disgresiwn y llys / Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau (pa bynnag un sy'n berthnasol), mae'n bosibl y gallai'r tenant wneud y canlynol: 

  • Derbyn iawndal
  • Perfformiad penodol – gorfodi landlord i gyflawni rhwymedigaeth yn y brydles 
  • Gwaharddebau – ei gwneud yn ofynnol i landlord gyflawni, neu beidio â chyflawni, rhywbeth 

Gorfodi cyfamod yn erbyn tenant arall yn yr adeilad

Weithiau, mae lesddaliad hir o ran o adeilad yn cynnwys cymal sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r landlord orfodi cyfamod sydd wedi'i dorri gan denant ar gais tenant arall yn yr adeilad. Gwelir y rhain yn aml mewn prydlesi fflatiau. 

Fel arfer, bydd y cymal yn ei gwneud yn ofynnol fod y tenant sy'n gwneud y cais yn talu costau'r landlord i orfodi'r cyfamod. 

Gallai prydles hir hefyd gynnwys cymal sy'n caniatáu'r tenant yn hytrach i orfodi cyfamod a dorrwyd gan denant arall yn uniongyrchol, ac felly nid oes angen i’r landlord fod yn rhan o’r broses. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
03 Rhagfyr 2021