Skip to main content

Trefniadau partneriaeth

O dan Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014), mae gan Weinidogion Cymru’r pŵer i wneud rheoliadau sy’n pennu trefniadau partneriaeth rhwng dau awdurdod lleol neu fwy neu rhwng un awdurdod lleol neu fwy ac un Bwrdd Iechyd Lleol neu fwy). Mae’r trefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol penodedig neu swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG.

Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol dalu tuag at sefydlu a gweithredu trefniadau partneriaeth drwy wneud taliadau’n uniongyrchol neu drwy gyfrannu at ‘gronfa gyfun’. Hefyd, gallant ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety ac adnoddau eraill at ddiben y bartneriaeth neu’n gysylltiedig â hi.

Mae rheoliadau a wnaed o dan Ran 9 o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i sefydlu byrddau partneriaeth rhanbarthol ac yn pennu’r trefniadau partneriaeth sydd angen eu gweithredu o dan gyfarwyddyd y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae’r rhain yn cynnwys trefniadau partneriaeth i ddarparu’r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS) a ddarparwyd o’r blaen o dan Ran 3 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
Mae Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015, wedi'u diwygio yn 2019, yn pennu aelodaeth y byrddau partneriaeth rhanbarthol a’u hamcanion, gan ei gwneud yn ofynnol cyflwyno adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i sefydlu cronfeydd a rennir mewn perthynas â'r trefniadau partneriaeth ar gyfer yr IFSS, a chronfa ranbarthol a rennir mewn perthynas â llety mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn 65 oed neu'n hŷn. Mae'r Rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol yn benodol i bob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol wneud cyfraniad ariannol i'r gronfa ranbarthol a rennir sy'n gymesur â'i wariant blynyddol rhagweledig ar leoedd mewn cartrefi gofal i bobl hŷn.

Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn y Rheoliadau sy'n atal awdurdodau lleol neu Fyrddau Iechyd Lleol rhag sefydlu a chynnal cronfeydd a rennir neu gronfeydd rhanbarthol a rennir ar gyfer cynnal unrhyw swyddogaethau penodedig eraill.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol mewn perthynas â’r trefniadau partneriaeth o dan adran 166 i 168.

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Medi 2022