Skip to main content

Tystysgrifau perfformiad ynni

Lle mae adeilad yn cael ei godi neu adeilad yn cael ei addasu fel bod ganddo fwy neu lai o rannau wedi'u cynllunio neu eu haddasu ar gyfer defnydd ar wahân nag yn flaenorol, a bod newidiadau i'r ddarpariaeth gwasanaethau gwresogi, dŵr poeth neu aerdymheru/awyru, rhaid i'r sawl sy'n gwneud y gwaith:

  • roi tystysgrif perfformiad ynni (EPC) ar gyfer yr adeilad i berchennog yr adeilad; a
  • rhoi hysbysiad i'r perwyl hwn i'r awdurdod lleol.

Mae'r EPC yn dangos gradd effeithlonrwydd ynni yr eiddo.

Mae'r Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 yn cynnwys rhwymedigaethau mewn perthynas â'r EPC. Mae'r rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar sail Cymru a Lloegr, yn rhoi gofynion y Gyfarwyddeb UE ar berfformiad egni adeiladau (recast) 2010/31/EU ar waith.  

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021