Skip to main content

Ymgymerwyr statudol

Mae'r Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (TCPA 1990) yn cynnwys darpariaethau sy'n newid rheolaeth cynllunio arferol yn achos ymgymerwyr statudol. 

Cyrff yw ymgymerwyr statudol sydd wedi eu hawdurdodi gan unrhyw ddeddfiad i gyflawni ymgymeriadau penodol. Mae rhai o'r darpariaethau sy'n berthnasol i ymgymerwyr statudol yn ymwneud â'u tir gweithredol yn unig (sy'n cael ei ddiffinio yn y TCPA 1990). Mae cyrff eraill, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cael eu hystyried yn ymgymerwyr statudol hefyd ar gyfer rhai o ddarpariaethau TCPA 1990.

Mae newidiadau i reolaeth cynllunio arferol mewn perthynas ag ymgymerwyr statudol yn cynnwys:

  • rhai mathau o waith gan ymgymerwyr statudol nad yw’n cael ei ystyried yn datblygu dan y TCPA 1990;
  • caniatâd cynllunio a roddwyd dan y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 ar gyfer datblygiad penodol gan ymgymerwyr statudol;
  • apeliadau a cheisiadau uniongyrchol i Weinidogion Cymru yn cael eu penderfynu ar y cyd gan Weinidogion Cymru a'r 'gweinidog priodol' (Gweinidog Llywodraeth y DU);
  • nid yw caffael neu feddiannu tir yn orfodol yn cael blaenoriaeth dros hawliau ymgymerwyr statudol yn awtomatig.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mehefin 2021