Cefn gwlad a mynediad - trosolwg
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Yn gyffredinol, mae'r gyfraith ar fynediad i gefn gwlad i'w chael yn y Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, (NPACA 1949) a greodd system o fynediad cyhoeddus i gefn gwlad. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer dynodi parciau cenedlaethol a chreu awdurdodau parciau cenedlaethol.
Ehangwyd darpariaethau'r Ddeddf hon ymhellach gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (CRWA 2000). Creodd y CRWA 2000 lwybr arfordir Cymru, diwygiodd y gyfraith sy'n ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus, gan alluogi gorchmynion rheoleiddio traffig i warchod harddwch naturiol ardal, a gwnaeth ddarpariaethau hefyd ar yrru cerbydau a yrrir yn fecanyddol mewn mannau eraill y tu hwnt i'r ffordd.
Mae’r CRWA 2000 hefyd yn darparu ar gyfer dynodi ardaloedd (nad ydynt mewn parc cenedlaethol) sydd o harddwch naturiol eithriadol.
Mae'r gyfraith mewn perthynas â thir comin yn cael ei llywodraethu'n bennaf gan Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Tir sy'n eiddo i rywun yw tir comin ond bod caniatâd i bobl eraill ei ddefnyddio mewn ffyrdd penodol. Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaethau ar gyfer tir comin a meysydd trefi neu bentrefi.