Tirweddau gwarchodedig
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Defnyddir y term “tirweddau gwarchodedig” yn aml i ddisgrifio parciau cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
Mae'r Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 yn darparu ar gyfer creu Parciau Cenedlaethol a sefydlu Comisiwn y Parciau Cenedlaethol; mae'n darparu ar gyfer dynodi parciau cenedlaethol ac ar gyfer sefydlu awdurdodau parciau cenedlaethol a’u swyddogaethau (gan gynnwys pwerau i greu is-ddeddfau) yn ogystal â’u perthynas gyda chyfraith cynllunio; yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i sefydlu a chynnal a chadw gwarchodfeydd natur.
Hefyd sefydlodd y Ddeddf Gyngor Cefn Gwlad Cymru y trosglwyddwyd ei swyddogaethau bellach i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae'r Ddeddf yn nodi sut mae dynodi tir yn Barciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol neu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yng Nghymru, ceir tri Pharc Cenedlaethol:
- Parc Cenedlaethol Eryri (cadarnhawyd y dynodiad ar 18 Hydref 1951);
- Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (cadarnhawyd y dynodiad ar 12 Chwefror 1952);
- Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (cadarnhawyd y dynodiad ar 17 Ebrill 1957).
Mae'r gyfraith sy'n rheoli statws a chyfansoddiad Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol i’w gweld yn yr Ddeddf yr Amgylchedd 1995 bellach.
AHNE
Ardaloedd a ddynodir ar gyfer gwarchodaeth yw AHNE yn sgil eu gwerth tirwedd sylweddol. Mae’r gyfraith ar gyfer AHNE i’w chael yn y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, sy’n darparu ar gyfer dynodi ardaloedd (nad ydynt mewn parc cenedlaethol) sydd o harddwch naturiol eithriadol. Mae’r dynodiad yn sbarduno rhwymedigaethau sy’n ymwneud â chynlluniau datblygu, ac yn caniatáu creu gorchmynion mynediad a sefydlu byrddau cadwraeth.
Ar hyn o bryd, ceir pum AHNE yng Nghymru:
- AHNE Ynys Môn - Mae'r rhan fwyaf o arfordir Ynys Môn, o Ynys Lawd yn y gorllewin i Ynys Seiriol yn y dwyrain, yn AHNE.
- AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy - Dyma'r AHNE fwyaf newydd yng Nghymru, wrth galon Bryniau Clwyd mae cadwyn o fryniau 21 o filltiroedd o hyd sy'n ymestyn o Brestatyn i Langollen ar afon fywiog Dyfrdwy.
- AHNE Pen Llŷn - Estyniad naturiol o Eryri yw Pen Llŷn. Mae tua chwarter o'r penrhyn yn AHNE sydd â golygfeydd digyffwrdd o'r arfordir, copâu folcanig sydd wedi hen farw a chaerau'r Oes Haearn.
- AHNE Penrhyn Gŵyr - Mae llawer o safleoedd ecolegol ac archeolegol rhyfeddol ym Mhenrhyn Gŵyr. O fewn ychydig filltiroedd o'i gilydd mae tair Gwarchodfa Natur, sawl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a'r safle claddu cynharaf a wyddir amdano yng ngorllewin Ewrop, Ogof Paviland, lle canfuwyd gweddillion o 34,000 o flynyddoedd yn ôl.
- AHNE Dyffryn Gwy - Mae Afon Gwy yn ei chyfanrwydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae adran isaf ei dyffryn, o Henffordd i Gas-gwent heibio Abaty Tyndyrn, yn AHNE.
Hawliau mynediad statudol/mynediad i'r arfordir
Mae’r Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer cofnodi, creu, cynnal a chadw a gwella llwybrau cyhoeddus ac er mwyn sicrhau mynediad i dir agored, yn diwygio'r gyfraith sy'n ymwneud â hawliau tramwy ac yn rhoi pwerau pellach er mwyn diogelu a gwella harddwch naturiol.