Coedwigaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Daw'r rhan fwyaf o swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â choedwigaeth o'r Deddf Coedwigaeth 1967, gyda'u dyletswyddau cyffredinol wedi'u nodi yn adrannau 1(2) a (3) y Ddeddf honno.
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd gyffredinol i hyrwyddo buddiannau coedwigaeth, datblygiad coedwigaeth a chynhyrchu a chyflenwi pren a chynnyrch coedwigaeth eraill (adran 1(2)). Mae ganddo hefyd ddyletswydd i hyrwyddo sefydlu a chynnal digon o goed yn tyfu wrth gefn (adran 1 (3)). Wrth gyflawni’r dyletswyddau hyn rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru geisio cadw’r ddysgl yn wastad o fewn rheswm rhwng datblygiad coedwigaeth, rheoli coedwigoedd a chynhyrchu a chyflenwi pren, a chadwraeth a gwella harddwch naturiol a chadwraeth fflora, ffawna a nodweddion daearegol a ffisiograffigol o ddiddordeb arbennig (adran 1(3A)).
Mae adran 46(1) y Deddf Coedwigaeth 1967 yn grymuso Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud is-ddeddfau mewn perthynas ag unrhyw dir sydd dan ei reolaeth a lle mae gan y cyhoedd fynediad, neu lle gellir caniatáu iddynt gael mynediad. Mae adran 48 yn rhoi i Cyfoeth Naturiol Cymru bwerau mynd i mewn a gorfodi at bwrpasau cysylltiedig ag ymarfer ei bwerau a chyflawni ei ddyletswyddau dan y Ddeddf Coedwigaeth 1967 neu'r Deddf Iechyd Planhigion 1967.