Skip to main content

Y diwydiant dŵr

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Mae ochr y diwydiant dŵr yn canolbwyntio ar reoleiddio ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth ac mae’r ddeddfwriaeth yn ymwneud ag ardaloedd penodi’r ymgymerwyr hynny, boed yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru (lle mae’n fater i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru) neu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr (lle mae’n fater i Senedd y DU a Llywodraeth y DU). Y brif Ddeddf yn y maes yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 sy'n gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a chwmnïau dŵr a charthffosiaeth mewn perthynas â chyflenwad dŵr a materion dŵr gwastraff.

Cyflenwyr dŵr trwyddedig

Gall cwsmeriaid nad ydyn nhw’n gwsmeriaid preswyl ac sy’n debyg o ddefnyddio o leiaf 50 megalitr o ddŵr y flwyddyn  ddewis eu cyflenwr dŵr o ystod o gwmnïau newydd. Gall cwmnïau newydd gyflenwi dŵr i gwsmeriaid sy’n gymwys unwaith maent wedi cael trwydded gan Ofwat.

Gallant wneud hyn mewn un o ddwy ffordd:

  • Trwydded werthu

Trwydded i gyflenwi dŵr ar gyfer prynu cyflenwad mawr o ddŵr gan gwmni dŵr penodedig a defnyddio ei system gyflenwi i gludo dŵr i dai cwsmeriaid.

  • Trwydded gyfun

Cludo dŵr i gwsmeriaid cymwys drwy system gyflenwi cwmni dŵr penodedig.

Gall cwmnïau dŵr sefydledig sydd wedi eu penodi dan y Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 gystadlu drwy sefydlu cwmnïau cyswllt. Bydd eu trwydded yn caniatáu iddynt weithredu unrhyw le yng Nghymru a Lloegr, heblaw o fewn system gyflenwi eu cwmni dŵr cyswllt.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mehefin 2021