Masnachu allyriadau
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Mae Cynllun Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd yn system gapio a masnachu y mae'r DU yn cymryd rhan ynddi.
Mae'r elfen capio yn cyfyngu ar feintiau'r nwyon tŷ gwydr y gellir eu hallyrru gan y gosodiadau aelod-wladwriaeth a gwmpesir gan y cynllun. Bydd y cap yn cael ei leihau yn raddol. Rhoddir lwfansau allyriadau i weithredwyr gosodiadau: rhai am ddim, rhai trwy arwerthiant, ac mae rhai ar gael i'w dyrannu i newydd-ddyfodiaid. Mae'r elfen masnachu yn caniatáu gweithredwyr i fasnachu eu lwfansau. Ar ôl bob blwyddyn, rhaid i weithredwyr ildio digon o lwfansau allyriadau i gwmpasu eu hallyriadau; fel arall, gosodir dirwyon trwm er mwyn adlewyrchu'r ffaith fod y gweithredwr wedi mynd y tu hwnt i’w derfyn wedi'i gapio.
Rheolir cadw at y cap, ildio lwfansau allyriadau, a rhagnodi gosodiadau a gweithredwyr sy'n cael eu dal gan y cynllun gan ddeddfwriaeth y DU.