Skip to main content

Trwyddedu glo

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Mae glo yn graig waddod losgadwy yr oedd ei gallu i gynhyrchu ynni gwres yn sbardun ar gyfer y Chwyldro Diwydiannol. Mae'n ffurfio pan fydd deunydd planhigion yn troi'n fawn ac yn cael ei gladdu dros amser, gan ei roi o dan wasgedd uchel. Mae hyn yn ei drawsnewid i lignit yn gyntaf (glo meddal a brown â chynnwys lleithder uchel a dwysedd egni isel), ac yna i lo bitwminaidd (meddal a brown tywyll / du), a ddefnyddir weithiau fel glo golosg wrth gynhyrchu dur), neu lo carreg (caled, gyda chynnwys carbon uchel a dwysedd egni uchel). Mae glo wedi'i leoli mewn basnau o fewn gwythiennau rhwng haenau o greigiau gwaddod. Gellir ei gloddio ar yr wyneb (cloddio glo brig) neu o dan ddaear.

Mae gan yr Awdurdod Glo berchnogaeth a chyfrifoldeb dros lo'r DU nas cloddiwyd o dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994. Gall drwyddedu gweithrediadau sy'n cynnwys ennill, gweithio neu gael glo bitwminaidd, glo cannwyll (glo sy'n llawn hydrogen) a glo carreg. Mewnosododd adran 67 o Ddeddf Cymru 2017 adran 26A o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994, sy'n nodi na all unrhyw drwydded sy'n awdurdodi gweithrediadau mewn perthynas â glo yng Nghymru fod yn effeithiol heblaw cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
09 Mehefin 2021