Skip to main content

Trwyddedu petrolewm

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

 

Gan amlaf, mae petrolewm yn cael ei gysylltu â'i ffurf hylifol, sef olew crai, sydd wedi'i wneud o hydrocarbonau y gellir eu tynnu o gronfeydd drwy ddrilio. Fodd bynnag, mewn termau technegol, mae petrolewm hefyd yn dod ar ffurf nwy naturiol, nwy hydrocarbon a wnaed yn bennaf o fethan. Gellir tynnu nwy naturiol drwy ddrilio hefyd. Pan fydd methan yn cael ei ganfod mewn haenau glo, gellir ei dynnu drwy ddrilio i mewn i'r wythïen lo.

At ddibenion trwyddedu petrolewm, mae Deddf Petrolewm 1998 yn diffinio petrolewm fel unrhyw olew mwynol neu hydrocarbon cysylltiedig a nwy naturiol sy'n bodoli yn eu cyflwr naturiol mewn stratwm (un haen o greigiau gwaddod). Nid yw'n cynnwys glo, sialau bitwminaidd a dyddodion haenedig eraill y gellir tynnu olew ohonynt trwy ddistylliant dinistriol.

Mae petrolewm y DU yn eiddo i'r Goron, ac er mwyn chwilio amdano, tyllu amdano neu geisio amdano, mae'n rhaid cael trwydded.

Gwnaeth Deddf Cymru 2017 ddiwygio Rhan 1 o Ddeddf Petrolewm 1998. Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i roi trwyddedau petrolewm mewn perthynas ag ardal ar y tir Cymru. Ardal ar y tir Cymru yw ardal môr tiriogaethol Cymru sy'n ymestyn i'r waelodlin. Mae'r Awdurdod Olew a Nwy (OGA) yn parhau i fod yn gyfrifol am drwyddedu petrolewm yn nyfroedd Cymru.

At ddibenion Deddf Petrolewm 1998, gall Gweinidogion Cymru ragnodi'r gofynion ar gyfer cais am drwydded a chymalau enghreifftiol trwydded. Mae adran 188 o Ddeddf Ynni 2004 hefyd wedi cael ei diwygio i alluogi Gweinidogion Cymru i osod ffioedd i ariannu’r gwaith o arfer eu swyddogaethau trwyddedu petrolewm (gweler Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ffioedd) (Cymru) 2018).

O dan Ddeddf Petrolewm 1998, ni all Gweinidogion Cymru roi caniatâd ffynnon ar gyfer ffynnon yn ardal ar y tir Cymru, oni bai y rhoddir amod sy'n:

  • atal hollti hydrolig cysylltiedig (“ffracio”) ar ddyfnder sy'n llai na 1,000 metr; a
  • os yw ar ddyfnder sy'n fwy na 1,000 metr, ei drwyddedu yn amodol ar ganiatâd gan Weinidogion Cymru yn unig. Mae ffracio yn dechneg ysgogi ffynnon a ddefnyddir i gael mynediad at sialau, sy’n cynnwys math o betrolewm (h.y. olew neu nwy) sy'n anodd cael mynediad ato drwy ddulliau confensiynol am ei fod wedi'i ddal mewn craig anrhydyllog. Mae'n cynnwys chwistrellu dŵr o dan wasgedd uchel (weithiau'n cynnwys tywod i gadw'r hollt ar agor) i mewn i dwll sydd wedi'i ddrilio. Mae hyn yn creu craciau yn y graig, gan alluogi nwyon naturiol a/neu olew i lifo'n fwy rhydd. At ddibenion Deddf Petrolewm 1998, mae ffracio'n cynnwys chwistrellu mwy na 1,000 o fetrau ciwbig o hylif ym mhob cam, neu fwy na 10,000 o fetrau ciwbig o hylif i gyd.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mehefin 2021