Ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Y Deyrnas Unedig
Mae Deddfau amrywiol y DU wedi rhoi mesurau polisi ar waith sy'n cymell cynhyrchu ynni o ffynonellau carbon isel, er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae enghreifftiau allweddol yn cynnwys:
- Yr ardoll newid yn yr hinsawdd (“Climate Change Levy”) (treth amgylcheddol ar ddefnydd trydan a nwy gan gwmni)
- Tariffau cyflenwi trydan ar gyfer cynhyrchu trydan carbon isel ar raddfa fach (e.e. tyrbinau gwynt, paneli solar, a systemau microgynhyrchu gwres a phŵer cyfunedig)
- Cymhellion gwres adnewyddadwy (talu unigolion sy'n gosod system wresogi adnewyddadwy gymwys fel solar, tonnau/llanw neu danwyddau biomas)
- Y Fargen Werdd (sy'n cynorthwyo â buddsoddiad mewn gwelliannau i adeiladau sy'n arbed ynni)
- Contractau gwahaniaeth (contractau "arwerthu" er mwyn darparu pŵer carbon isel i gymell datblygwyr i dalu costau ymlaen llaw uchel prosiectau cynhyrchu trydan carbon isel)
- Y farchnad capasiti trydan (sy'n sicrhau bod gofynion trydan yn parhau i gael eu bodloni)
- Pwerau ymyrryd yn y farchnad sy'n galluogi addasu amodau cynhyrchu trydan a thrwyddedau cyflenwi trydan
Yn ogystal, mae deddfwriaeth y DU wedi gosod dyletswyddau ar unigolion a chyrff amrywiol er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Y defnydd o fiodanwyddau mewn trafnidiaeth
- Cynlluniau lleihau gwastraff y cartref
- Targedau lleihau allyriadau ar gyfer cwmnïau nwy a thrydan
- Adrodd ynghylch effeithlonrwydd a chynaliadwyedd yr ystâd sifil
- Ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr trydan ddod o hyd i drydan o ffynonellau adnewyddadwy
- Mesuryddion deallus
- Cynlluniau ar gyfer lleihau tlodi tanwydd (gan gynnwys y rhwymedigaeth cwmni ynni)
- Cynyddu’r data perfformiad ynni sydd ar gael
- Ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth am y tariff rhataf gael ei chynnwys ar filiau ynni
Cymru
Ceir cynllun Cymreig i ddarparu grantiau effeithlonrwydd ynni cartref, y mae eu hamodau wedi'u nodi yn Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011.
Diwygiodd Deddf Cymru 2017 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i ragnodi y gallai Cynulliad Cenedlaethol Cymru (at y pryd) greu deddfwriaeth mewn perthynas â’r canlynol:
- Rhwydweithiau gwres ac oeri (system neu rwydwaith lle mae ager, dŵr poeth neu hylif sydd wedi'i oeri yn cael ei ddosbarthu o ffynhonnell ganolog er mwyn cyflenwi gwres neu oeri ar gyfer defnyddwyr neu eiddo) (ac eithrio eu rheoleiddio)
- Cynlluniau sy'n darparu cymhellion i gynhyrchu neu greu, neu i hwyluso cynhyrchu neu greu, gwres neu oeri o ffynonellau ynni heblaw tanwydd ffosil neu danwydd niwclear
- Annog effeithlonrwydd ynni (ac eithrio drwy wahardd neu reoleiddio)
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021