Ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol
Mathau o ysgolion
Nid oes un diffiniad penodol o ysgol a gynhelir, ond yn gyffredinol mae'n un o'r categorïau ysgol isod sy'n cael ei hariannu'n llwyr neu'n sylweddol gan awdurdod lleol. Rhaid gwahaniaethu rhwng ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol.
Ceir y categorïau a ganlyn o ysgol a gynhelir yng Nghymru:
- Ysgolion cymunedol - mae'r rhain yn eiddo i'r awdurdod lleol ac yn cael eu gweinyddu ganddo, a'r awdurdod lleol sy'n gosod y meini prawf mynediad (megis y dalgylch) ac yn penderfynu pa blant sy'n gymwys i gael lle.
- Ysgolion arbennig cymunedol - ysgolion cymunedol sy'n darparu addysg arbennig yw'r rhain (h.y. i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig).
- Ysgolion gwirfoddol a reolir - mae'r rhain yn cael eu rhedeg gan sefydliad gwirfoddol (yng Nghymru yr Eglwys Gatholig neu'r Eglwys yng Nghymru fel arfer) ac eto'n cael eu rheoli'n agos gan yr awdurdod lleol. Yr awdurdod lleol sy'n cyflogi'r staff ac yn gosod y meini prawf mynediad, ond mae tir ac adeiladau'r ysgol yn eiddo i'r elusen (yn aml i'r eglwys) sy'n penodi rhai aelodau o'r corff llywodraethu.
- Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir - mae'r rhain yn cael eu rhedeg gan sefydliad gwirfoddol ac mae ganddynt fwy o annibyniaeth polisi ac ariannol nag ysgolion gwirfoddol a reolir. Ysgolion crefyddol neu ffydd yw'r rhain yn bennaf: yng Nghymru rhai'r Eglwys Gatholig neu'r Eglwys yng Nghymru fel arfer. Y corff llywodraethu sy'n cyflogi'r staff ac yn gosod y meini prawf mynediad ac elusen sy'n berchen ar adeiladau a thir yr ysgol fel arfer (yr eglwys yn aml).
- Ysgolion sefydledig - mae'r rhain yn berchen i'r corff llywodraethu neu i sefydliad elusennol. Y corff llywodraethu sy'n gosod y meini prawf mynediad ac mae rheolaeth yr awdurdod lleol yn gyfyngedig.
- Ysgolion arbennig sefydledig - ysgolion sefydledig yw'r rhain sy'n darparu addysg arbennig (h.y. i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig). Nid oes ysgolion o'r math hwn yng Nghymru ar hyn o bryd.
- Ysgolion meithrin a gynhelir - ysgolion dan reolaeth yr awdurdod lleol yw'r rhain ar gyfer plant sydd heb gyrraedd oedran ysgol gorfodol eto.
Mae darpariaethau ynghylch ysgolion o'r fath i'w cael ym Mhennod 4 Rhan 1 y Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Yng Nghymru nid yw hi'n bosibl bellach i sefydlu ysgol sefydledig newydd na gwneud cynigion trefniadaeth ysgol i newid o un categori ysgol i ddod yn ysgol sefydledig. Yn yr un modd nid yw hi'n bosibl bellach i sefydlu ysgol arbennig sefydledig na gwneud cynigion trefniadaeth ysgol i newid o un categori ysgol i ddod yn ysgol arbennig sefydledig.
Dylid nodi mai dim ond yn Lloegr mae academïau ac ysgolion rhydd yn bodoli ac nid yw hi'n bosibl sefydlu academi neu ysgol rydd newydd yng Nghymru na newid y categori ysgol bresennol i fod yn un ohonynt .