Llywodraeth Cymru
Sefydlwyd Llywodraeth Cymru gan adran 45 o'r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006), sy’n datgan:
“(1) There is to be a Welsh Government, or Llywodraeth Cymru, whose members are—
(a) the First Minister or Prif Weinidog,
(b) the Welsh Ministers, or Gweinidogion Cymru,
(c) the Counsel General to the Welsh Government or Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru, and
(d) the Deputy Welsh Ministers or Dirprwy Weinidogion Cymru.”
Fodd bynnag, nid yw swyddogaethau (mewn geiriau eraill, pwerau a dyletswyddau) yn cael eu rhoi i Lywodraeth Cymru o dan yr enw hwnnw fel arfer. Yn hytrach, rhoddir swyddogaethau i aelodau'r Llywodraeth. Yr aelodau o Lywodraeth Cymru yw Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol. Maent yn dilyn eu swyddogaethau ar ran y Goron (gweler adran 57(2) o GoWA 2006).
Gweinidogion Cymru, gan gynnwys y Prif Weinidog, sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o swyddogaethau Llywodraeth Cymru, ond y Prif Weinidog yn unig sy’n gyfrifol am rai swyddogaethau. Mae gan bob un o Weinidogion Cymru bortffolio, a ddyrennir gan y Prif Weinidog, a byddant yn cyflawni eu swyddogaethau yn unol â hynny. Fodd bynnag, wrth gyflawni ei swyddogaethau, mae pob Gweinidog yn gweithredu ar ran holl Weinidogion Cymru, ac maent i gyd wedi’u hymrwymo gan, ac yn atebol am y weithred honno (adran 57 (4) o GoWA 2006).
Ailenwyd 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' yn 'Llywodraeth Cymru' yn ymarferol yn 2011 ac yn gyfreithiol gan y Ddeddf Cymru 2014.
Y Prif Weinidog
Mae’r Prif Weinidog yn cael ei enwebu gan Senedd Cymru, yn unol ag adran 47 o GoWA 2006, a’i benodi gan Ei Fawrhydi y Brenin, yn unol ag adran 46 o GoWA 2006. Mae rhai swyddogaethau yn cael eu rhoi i’r Prif Weinidog yn unig, ac mae adran 57(5) o GoWA 2006 yn cydnabod mai dim ond y Prif Weinidog sy’n gallu cyflawni'r swyddogaethau hynny ac mai ef neu hi yn unig sy’n atebol amdanynt.
Fel sy’n wir am Weinidogion Cymru, nid yw’r Prif Weinidog yn Weinidog y Goron, ond o dan adran 57(2) o GoWA 2006, mae ef neu hi yn cyflawni ei swyddogaethau ar ran y Goron.
Gweinidogion Cymru
Mae Gweinidogion Cymru yn cael eu penodi gan y Prif Weinidog o dan adran 48 o GoWA 2006, ac mae eu penodiad yn cael ei gymeradwyo gan Ei Fawrhydi y Brenin. Yn unol ag adran 51(1) o GoWA 2006, ni all cyfanswm Gweinidogion Cymru a Dirprwy Weinidogion Cymru fod yn fwy na 12 ar unrhyw adeg.
Nid yw Gweinidogion Cymru yn Weinidogion y Goron (caiff Gweinidog y Goron ei ystyried yn asiant y Goron, sydd â goblygiadau o safbwynt ei bwerau). Fodd bynnag, mae Gweinidogion Cymru yn cyflawni eu swyddogaethau 'ar ran' y Goron (adran 57(2) o GoWA 2006). Mae hyn yn golygu bod gan Weinidogion Cymru statws corff y Goron, ac o ganlyniad gallent ddibynnu ar rai manteision sy’n cyd-fynd â’r statws hwnnw.
Y Cwnsler Cyffredinol
Penodir y Cwnsler Cyffredinol gan y Brenin ar sail argymhelliad y Prif Weinidog o dan adran 49 o GoWA 2006. Ni all y Prif Weinidog argymell penodi (neu ddiswyddo) Cwnsler Cyffredinol heb gytundeb Senedd Cymru. Ni all y Cwnsler Cyffredinol fod yn Weinidog, ond mae’n aelod o Lywodraeth Cymru, a gall fod (ond nid oes rhaid iddo fod) yn Aelod y Senedd.
Deiliad y swydd hon yw cynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, ac mae’n cydweithio â Swyddogion y Gyfraith eraill ledled y Deyrnas Unedig (megis y Twrnai Cyffredinol). Mae gan y Cwnsler Cyffredinol rai swyddogaethau statudol, gan gynnwys y pŵer i atgyfeirio Biliau Senedd Cymru i’r Goruchaf Lys, ac mae’n gallu cychwyn achos cyfreithiol yn enw’r Cwnsler Cyffredinol.
Dirprwy Weinidogion Cymru
Penodir Dirprwy Weinidogion Cymru o dan adran 50 o GoWA 2006 gan y Prif Weinidog, gyda chymeradwyaeth y Brenin. Nid oes gan yr unigolion hyn eu swyddogaethau eu hunain o dan unrhyw ddeddfwriaeth, ond gallant gael eu hawdurdodi i gyflawni swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru. Swyddogaeth allweddol Dirprwy Weinidogion Cymru yw cynorthwyo’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol i gyflawni eu swyddogaethau.
Swyddogaethau Gweinidogion Cymru
Nid yw holl swyddogaethau (hynny yw, pwerau a dyletswyddau) Gweinidogion Cymru yn deillio o un ffynhonnell, ac mae angen gwneud gwaith ymchwil yn aml er mwyn penderfynu a allant gyflawni swyddogaeth benodol ai peidio. Gall eu swyddogaethau ddeillio o’r canlynol:
- Gorchmynion Trosglwyddo Swyddogaethau - Mae Gorchmynion Trosglwyddo Swyddogaethau yn Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wneir gan Ei Fawrhydi o dan adran 58 o GoWA 2006, ac maent yn trosglwyddo swyddogaethau Gweinidog y Goron i Weinidogion Cymru ar gyfer materion yn ymwneud â Chymru. Trosglwyddwyd llawer o swyddogaethau yn y modd hwn gan y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn yn wreiddiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â’i gyfansoddiad o dan GoWA 1998, ond fe’u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru wedyn (paragraff 30 o Atodlen 11 i GoWA 2006). Yn dilyn y Ddeddf Cymru 2017, fe drosglwyddwyd cyfres pellach o swyddogaethau gan amryw o orchmynion, hefyd wedi eu gwneud o dan adran 58 o GoWA 2006.
- Deddfau Seneddol, gan gynnwys GoWA 2006 - Gall deddfwriaeth sydd wedi’i phasio gan Senedd y DU roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru yn uniongyrchol. Er enghraifft, mae adran 60 o GoWA 2006 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru weithredu er mwyn hyrwyddo neu wella lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Cymru.
- Gorchmynion Dynodi a deddfwriaeth a wneir o dan adran 2(2) o'r Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972- Mae’r rhain yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru weithredu gofynion penodol sy’n deillio o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd, ond rhoddwyd ddynodiad fwy cyffredinol i Weinidogion Cymru gan adran 58B mewnosodwyd I fewn I GoWA gan yr Deddf Cymru 2017.
- Deddfau Senedd Cymru, Mesurau’r Cynulliad a Deddfau’r Cynulliad - Yn yr un modd â Deddfau Seneddol, gall y rhain roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru.
Cyfyngiadau ar gyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru
Wrth gyflawni eu swyddogaethau, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bob amser nad ydynt yn gweithredu’n groes i rwymedigaethau cyfraith Ewrop neu’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (gweler adrannau 80 ac 81 o GoWA 2006). Yn ogystal, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus a dyletswyddau statudol eraill, fel dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (adran 149 o'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010), a’r ddyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011).