Skip to main content

Llysoedd

Mae sawl gwahaniaeth rhwng system y llysoedd a’r tribiwnlysoedd.

Llysoedd sifil a throseddol

Mae llysoedd sifil yn dyfarnu ar achosion yn ymwneud â’r hawliau a rhwymedigaethau rhwng pobl wahanol (boed yn unigolion neu’n fusnesau). Mae eu gwaith yn cwmpasu, er enghraifft, achosion o dorri contractau ac esgeulustod, ond mae llawer mwy o feysydd arbenigol mewn cyfraith sifil hefyd. Mae llysoedd troseddol yn ymwneud â phrofi a dedfrydu troseddau.

Llysoedd uwch a llysoedd is

Mae hierarchaeth o lysoedd a thribiwnlysoedd yn y DU, a rheolau ar ba lys neu dribiwnlys i’w ddefnyddio mewn achos penodol. Dywedir mai’r llys neu’r tribiwnlys cywir ar gyfer mater penodol sydd â’r ‘awdurdodaeth’ dros y mater hwnnw. Mae’r llysoedd is yn dueddol o fod ag awdurdodaeth mwy cyfyngedig, ac yn clywed achosion llai difrifol fel arfer. Cânt eu goruchwylio gan y llysoedd uwch hefyd. Darllenwch mwy am hierarchaeth y system dribiwnlysoedd.

Mae’r hierarchaeth yn bwysig oherwydd athrawiaeth cynsail: tra bod llys neu dribiwnlys yn gorfod ystyried penderfyniad blaenorol ar yr un mater gan unrhyw lys neu dribiwnlys arall, mae rhwymedigaeth gadarnhaol i ddilyn penderfyniad blaenorol llys neu dribiwnlys uwch yn yr hierarchaeth.

Llysoedd prawf ac apeliadol

Llys prawf neu’r tribiwnlys yw’r cyntaf i benderfynu ar y mater. Gelwir y llys neu’r tribiwnlys hwn yn llys neu dribiwnlys gwrandawiad cyntaf hefyd. Fel arfer, mae gan y parti sy’n colli'r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i lys neu dribiwnlys uwch, er bod rheolau ynghylch pa faterion y gellir apelio yn eu cylch, a therfynau amser llym ar gyfer cyflwyno apêl. Mae rhai llysoedd (e.e. y Llys Sirol a’r Uchel Lys) yn cynnwys awdurdodaeth gwrandawiad cyntaf ac apeliadol. Llysoedd apeliadol yn unig yw’r Llys Apêl a’r Goruchaf Lys. Fodd bynnag, mae’r Goruchaf Lys hefyd yn gyfrifol am glywed achosion yn ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru a’r deddfwriaethau datganoledig eraill - ac yn hynny o beth, mae’n gweithredu fel llys cyfansoddiadol.

Llysoedd a thribiwnlysoedd

Mae systemau llysoedd a thribiwnlysoedd yn wahanol. Mae sawl math gwahanol o dribiwnlys, pob un yn cwmpasu maes arbenigol. Er enghraifft, mae tribiwnlys treth arbenigol a thribiwnlys cyflogaeth. Mae llysoedd yn dueddol o fod yn fwy cyffredinol, er bod rhywfaint o arbenigedd o hyd fel y gellir dyrannu mathau gwahanol o achosion i lysoedd gwahanol. Mae’r gwahaniaeth rhwng llys a thribiwnlys yn bwysig gan fod rheolau ar ddirmyg llys yn berthnasol i lys yn unig (er nad yw’r enw a roddir ar lys neu dribiwnlys yn arweiniad dibynadwy bob tro er mwyn gwybod a yw’n cyfrif fel llys at ddibenion rheolau dirmyg llys).

Dewch o hyd i siart strwythur ar gyfer llysoedd yng Nghymru a Lloegr ar wefan Barnwriaeth y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Mehefin 2021