Skip to main content

Gweinyddu cyfiawnder

Mae mynediad i gyfiawnder yn agwedd bwysig ar reolaeth y gyfraith ac yn hawl sy’n cael ei gwarchod dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae’r cysyniad o fynediad i gyfiawnder yn cynnwys elfennau gwahanol, gan gynnwys:

  • hawl i fynd i’r llys i ddatrys anghydfod cyfreithiol,
  • yr hawl i achos llys teg a’r
  • hawl i herio dilysrwydd camau a phenderfyniadau a gymerir gan gyrff llywodraethol neu gyhoeddus.

Nid yw gweinyddu’r system gyfiawnder yn fater wedi’i datganoli, ac felly ni all Senedd Cymru ddeddfu yn ei chylch.

Mae Lloegr a Chymru yn rhannu’r un awdurdodaeth gyfreithiol, a’r un system o lysoedd a thribiwnlysoedd. Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi, asiantaeth weithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n gweinyddu’r system gyfiawnder. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
12 Medi 2022