Skip to main content

Tribiwnlysoedd a Thribiwnlysoedd yng Nghymru

Tribiwnlysoedd

Yn sgil y Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, mae system gydlynus unigol o dribiwnlysoedd sy’n gweithio o fewn yr un fframwaith (er bod y Tribiwnlys Cyflogaeth yn eistedd y tu allan i’r system unedig hon). Mae tribiwnlysoedd wedi’u rhannu’n fras rhwng Tribiwnlys Haen Gyntaf sy’n clywed achosion yn y gwrandawiad cyntaf, ac Uwch Dribiwnlys sy’n clywed apeliadau o’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. Mae’r Tribiwnlys Haen Gyntaf a’r Uwch Dribiwnlys wedi’u rhannu’n nifer o siambrau arbenigol. O’r Uwch Dribiwnlys, mae posibilrwydd o apelio i’r Llys Apêl ac oddi yno i’r Goruchaf Lys wedyn. Yn ogystal â’r llwybrau apelio hyn, mae tribiwnlysoedd yn destun adolygiad barnwrol.

Dewch o hyd i siart strwythur ar gyfer llysoedd yng Nghymru a Lloegr ar wefan Barnwriaeth y DU.

Tribiwnlysoedd yng Nghymru

Gwnaeth Deddf Cymru 2017 (WA 2017) sefydlu rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i oruchwylio tribiwnlysoedd datganoledig. Mae saith tribiwnlys datganoledig, sy’n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ac y mae’r Llywydd yn llywyddu drostynt:

  • Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru; 
  • Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru;
  • Pwyllgor asesu rhent a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Deddf Rhenti 1977 (gan gynnwys tribiwnlys prisio lesddaliadau a thribiwnlys eiddo preswyl);
  • Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru; 
  • Tribiwnlys a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 3 i Deddf Addysg 2005 (cofrestru arolygwyr yng Nghymru: tribiwnlysoedd sy’n gwrando ar apeliadau o dan adran 27);
  • Tribiwnlys a dynnwyd o Banel Dyfarnu Cymru;
  • Tribiwnlys y Gymraeg.

Ariennir y tribiwnlysoedd gan Lywodraeth Cymru ond meant yn gweithredu’n annibynnol ar y llywodraeth. 

Gallai tribiwnlysoedd newydd gael eu creu gan Senedd Cymru yn y dyfodol ac, yn unol ag WA 2017, gall y rhain gael eu hychwanegu at y rhestr o dribiwnlysoedd y mae Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn llywyddu drostynt. 

Penodi a swyddogaethau Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Penodir Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru gan yr Arglwydd Brif Ustus. Mae Rhan 3 o WA 2017 ac Atodlen 5 iddi yn cyfeirio at benodiad y Llywydd a thribiwnlysoedd Cymru.  

Un o swyddogaethau allweddol y Llywydd yw cyhoeddi cyfarwyddiadau ar gyfer arferion a gweithdrefnau tribiwnlysoedd Cymru. Rhaid i’r Llywydd sicrhau bod tribiwnlysoedd Cymru yn hygyrch a bod achosion yn cael eu cynnal mewn modd teg ac effeithlon. Mae gan y Llywydd gyfrifoldeb dros wneud trefniadau ar gyfer hyfforddiant, arweiniad a llesiant aelodau o dribiwnlysoedd Cymru, yn ogystal â chynrychioli eu safbwyntiau i Weinidogion Cymru ac Aelodau eraill Senedd Cymru.

Bydd y Llywydd hefyd yn gallu rhoi cyfarwyddiadau ar arferion a bydd yn gyfrifol am leoli aelodau tribiwnlys rhwng tribiwnlysoedd gwahanol Cymru, yn ogystal â rhwng tribiwnlysoedd ledled y DU a thribiwnlysoedd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Mehefin 2021