Skip to main content

Deddf Cynllunio (Cymru) 2026

 

Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2026 (“y Ddeddf Gynllunio”) yn dwyn ynghyd y brif ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chynllunio gwlad a thref yng Nghymru. O ganlyniad, mae’r holl ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n llywodraethu’r system gynllunio yng Nghymru bellach wedi ei chynnwys yn yr un Ddeddf hon, ar ffurf fwy cydlynol a hygyrch. Mae’r Ddeddf Gynllunio yn moderneiddio strwythur a geiriad y gyfraith ac felly’n ei gwneud yn haws i’w deall a’i defnyddio. “Cydgrynhoi” yw’r gair sy’n disgrifio dod â deddfwriaeth ynghyd yn y ffordd yma.


Mae’r Ddeddf yn rhan o God o gyfraith Cymru sy’n ymwneud â chynllunio. Mae rhagor o wybodaeth am ddiben Codau cyfraith Cymru ac am raglen ehangach y Llywodraeth flaenorol i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ar gael yn rhaglen Dyfodol Cyfraith Cymru.


Mae 15 o Rannau i’r Ddeddf Gynllunio:


•    Yn Rhan 1 rhoddir cyflwyniad ac eglurir cysyniadau penodol – yn enwedig “datblygiad” a’r “awdurdod cynllunio” – sy’n gysyniadau hanfodol er mwyn deall y Ddeddf.

•    Mae Rhan 2 yn nodi’r gyfraith sy’n ymwneud â’r cynllun datblygu, sef sail polisi’r system fodern o reolaeth gynllunio.

•    Mae Rhan 3 yn darparu bod caniatâd cynllunio yn ofynnol ar gyfer datblygiad, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y caniateir rhoi’r caniatâd hwnnw (gan gynnwys drwy orchymyn datblygu neu yn dilyn cais i’r awdurdod cynllunio). Mae hyn yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau, ac addasu a dirymu caniatâd.

•    Yn Rhan 4 eir ati i ddisgrifio’r camau y caniateir eu cymryd pan fo datblygiad yn cael ei gynnal heb ganiatâd. Pan nad yw cyflwyno hysbysiad yn datrys y broblem, caiff yr awdurdod cynllunio gymryd camau neu erlyn y rhai sy’n gyfrifol ei hun.

•    Mae Rhan 5 yn darparu system pan ellir cael tystysgrif cyfreithlondeb, gan ddatgan yn bendant nad oes angen caniatâd ar gyfer datblygiad sydd wedi digwydd neu sy’n cael ei ystyried.

•    Mae Pennod 1 o Ran 6 yn ymdrin â rhwymedigaethau y caniateir eu creu i gyfyngu ar ddatblygiad tir neu ei reoleiddio, a hynny fel arfer ochr yn ochr â rhoi caniatâd, neu ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ddarparu cyllid ar gyfer seilwaith a gwelliannau eraill. Mae Pennod 2 o Ran 6 yn amlinellu’r system ar gyfer codi’r ardoll seilwaith cymunedol gan awdurdod cynllunio er mwyn ei alluogi i gael cyllid o’r fath.

•    Mae Rhan 7 yn cynnwys pwerau eraill sy’n ymwneud â defnydd o dir neu gyflwr tir.

•    Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd i arddangos hysbysebion. Mae Rhan 9 yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n gwneud gwaith ar goeden gael cydsyniad pan fo wedi ei diogelu gan orchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir, neu hysbysu’r awdurdod cynllunio os yw mewn ardal gadwraeth.

•    Mae Rhan 10 yn grymuso awdurdodau lleol ac adrannau’r llywodraeth (sy’n cynnwys Gweinidogion Cymru ac un o Weinidogion y Goron) i gaffael neu i gyfeddu tir at ddibenion cynllunio.

•    Mae Rhannau 11 a 12 yn gwneud darpariaeth ar gyfer achosion pan fo datblygu neu gaffael tir yn unol â’r Ddeddf yn effeithio ar briffyrdd, ymgymerwyr statudol a gweithredwyr rhwydweithiau cyfathrebiadau electronig.

•    Mae Rhan 13 yn galluogi’r rhai y mae cynigion cynllunio neu gynigion eraill (sef tir o dan falltod) yn effeithio ar eu tir i’w gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio ei brynu.

•    Mae Rhannau 14 a 15 yn cynnwys darpariaethau gweinyddol a chyffredinol, gan gynnwys darpariaethau ynghylch arfer swyddogaethau cynllunio a chynnal apelau, hawliau i herio cyfreithlondeb penderfyniadau yn yr Uchel Lys, pwerau i wneud gwybodaeth yn ofynnol, darpariaethau ynghylch cyflwyno dogfennau, a diffiniadau o dermau a ddefnyddir yn y Ddeddf.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf Gynllunio yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol. Darperir dolen at y Nodiadau Esboniadol ar wefan deddfwriaeth.gov.uk pan fyddant ar gael. 

Mae Deddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 2026 yn cyd-fynd â’r Ddeddf Gynllunio. Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf honno ar gael ar dudalen ar wahân.


Dod i rym


Daeth y darpariaethau a ganlyn i rym ar 28 Ebrill 2026, yn unol ag adran 409(1):


-    Pennod 1 o Ran 1 (cyflwyniad a throsolwg), 
-    adran 42 (trosolwg o Ran 3), 
-    adran 407 (rheoliadau), 
-    adran 408 (dehongli), 
-    adran 409 (dod i rym), ac 
-    adran 410 (enw byr).

Y diwrnod hwnnw oedd drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf Gynllunio y Cydsyniad Brenhinol.


Daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 409(2).

 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf


Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf yn cael ei hychwanegu pan fydd y ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud – nid oes unrhyw ddeddfwriaeth o’r fath ar hyn o bryd.

 

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth


Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 15 Medi 2025 gan Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 10 Mawrth 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026.


Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Gynllunio ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.


Lluniwyd Memorandwm Esboniadol yn wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae’r Memorandwm hwn bellach wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru i adlewyrchu ffurf derfynol y Ddeddf Gynllunio. Darperir dolen at y Memorandwm Esboniadol terfynol pan fydd ar gael.

 

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig


Gan fod y Ddeddf Gynllunio yn cydgrynhoi deddfwriaeth gynharach, lluniwyd tablau tarddiadau a thablau trawsleoli. Mae’r Tabl Tarddiadau yn dangos o ble y mae darpariaethau’r Ddeddf yn tarddu – hynny yw, y deddfiad (a’r ddarpariaeth neu’r darpariaethau yn y deddfiad hwnnw) y mae pob darpariaeth o’r Ddeddf Gynllunio yn dod ohono. Mae’r Tabl Trawsleoli yn dangos sut y mae’r cydgrynhoi yn ymdrin â’r deddfiadau a ddisodlir gan y Ddeddf Gynllunio. Mae Nodiadau’r Drafftwyr, sy’n cyd-fynd â’r Ddeddf, yn esbonio penderfyniadau a wnaed wrth lunio’r ddeddfwriaeth.

Darperir dolenni at y rhain maes o law.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ynglŷn â chynnydd y gwaith o weithredu’r Ddeddf Gynllunio, ar gael yma: Cydgyfeiriad y gyfraith gynllunio 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
12 Mehefin 2026