Deddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2026
Mae Deddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2026 (“y Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol”) wedi ei deddfu ochr yn ochr â Deddf Cynllunio (Cymru) 2026 (“y Ddeddf Gynllunio”), sy’n cynnwys y brif ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu’r system gynllunio yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Gynllunio ar gael ar dudalen ar wahân.
Mae’r Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol yn diwygio ac yn diddymu deddfiadau ac yn gwneud darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed mewn cysylltiad â’r ‘brif’ Ddeddf Gynllunio. Yn aml, ymdrinnir â darpariaethau canlyniadol a throsiannol o’r fath mewn Atodlen neu Atodlenni i Ddeddf. Fodd bynnag, o ystyried bod y darpariaethau naill ai ag oes cyfyngedig yn ymarferol, neu y byddant o ddiddordeb cyfyngedig iawn i’r mwyafrif o ddarllenwyr y gyfraith gynllunio, drwy eu gosod mewn Deddf ar wahân mae’r darpariaethau o sylwedd (a’r rhai a ddefnyddir fwyaf aml) yn y Ddeddf Gynllunio yn rhydd o Atodlenni hir o ddarpariaethau canlyniadol a throsiannol.
Mae’r Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol yn cynnwys chwe adran a phum Atodlen. Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol. Darperir dolen at y Nodiadau Esboniadol ar wefan deddfwriaeth.gov.uk pan fyddant ar gael.
Dod i rym
Mae adran 5 o’r Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol yn nodi pryd y bydd darpariaethau’r Ddeddf yn dod i rym.
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2026 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 15 Medi 2025 gan Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 10 Mawrth 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2026 ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.
Lluniwyd Memorandwm Esboniadol yn wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae’r Memorandwm hwn bellach wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru i adlewyrchu ffurf derfynol y Ddeddf. Darperir dolen at y Memorandwm Esboniadol terfynol pan fydd ar gael.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ynglŷn â chynnydd y gwaith o weithredu’r Ddeddf Gynllunio, ar gael yma: Cydgyfeiriad y gyfraith gynllunio
