Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026
Bydd Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026 (“Deddf 2026”) yn cefnogi twristiaeth yng Nghymru drwy:
• sicrhau ymwelwyr bod llety yn bodloni’r safonau y byddent yn eu disgwyl; a
• darparu trefn glir i ddarparwyr.
Bydd Deddf 2026:
• yn creu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y cynllun trwyddedu; ac
• yn adeiladu ar gynlluniau ar gyfer cofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr a nodir yn Neddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025.
Mae Deddf 2026 hefyd yn creu Cod o gyfraith Cymru ar dwristiaeth. Bydd y Cod:
• yn dwyn ynghyd ddeddfau presennol ynghylch twristiaeth; ac
• yn ei gwneud yn haws cael gafael ar y gyfraith, a’i deall.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2026 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol. Darperir dolen at y Nodiadau Esboniadol ar wefan deddfwriaeth.gov.uk pan fyddant ar gael; gweler hefyd y Memorandwm Esboniadol, isod.
Dod i rym
Mae adran 61 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dod â Deddf 2026 i rym.
Daeth Pennod 2 (heblaw adran 56) o Ran 5 o Ddeddf 2026 i rym ar 28 Ebrill 2026, sef drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
Daw gweddill darpariaethau Ddeddf 2026 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig, ac eithrio:
• adrannau 16, 24, 25(3) i (5), 26, 28, 35 a 51 a ddaw i rym ar 5 Mawrth 2029 os nad ydynt wedi dod i rym cyn y diwrnod hwnnw, a
• gweddill darpariaethau Ddeddf 2026, a ddaw i rym ar 4 Mawrth 2030 os nad ydynt wedi dod i rym cyn y diwrnod hwnnw. Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig ddiwygio’r dyddiad hwn i ddiwrnod nad yw’n hwyrach na 2 flynedd ar ei ôl.
Yn y Memorandwm Esboniadol i Ddeddf 2026, rhagdybir y bydd y cynllun trwyddedu yn cael ei ddwyn i rym o 2029. Cyn i hynny ddigwydd, bydd ymgynghori pellach, bydd rheoliadau yn cael eu gwneud o dan y Ddeddf, a bydd canllawiau ar y cynllun yn cael eu cyhoeddi.
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Bydd is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2026 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 7 Tachwedd 2025 gan Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 17 Mawrth 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2026 ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.
Lluniwyd Memorandwm Esboniadol yn wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae’r Memorandwm hwn bellach wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2026.
