Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025
Diben Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 (‘Deddf 2025’) yw:
tynnu ynghyd a ffurfioli:
y trefniadau gweithdrefnol ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth Cymru; a
y gofynion ar gyfer cyhoeddi Deddfau Senedd Cymru ac offerynnau statudol Cymreig, ac is-ddeddfwriaeth arall nas gwneir drwy offeryn statudol;
gwella hygyrchedd cyfraith Cymru drwy:
ddiddymu, diwygio a datgymhwyso fel arall o ran Cymru ddarpariaethau a deddfiadau nad ydynt o ddefnyddioldeb ymarferol neu o fudd mwyach;
gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2025 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Mae adran 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dyfodiad Deddf 2025 i rym.
Daeth adrannau 9 a 10 i rym ar 11 Gorffennaf 2025 (drannoeth y diwrnod y cafodd Deddf 2025 y Cydsyniad Brenhinol).
Daw adrannau 2, 4 a 7, ynghyd ag Atodlenni 1 a 2, i rym ar 10 Medi 2025.
Daw holl ddarpariaethau eraill Deddf 2025 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru, mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
[I’w hychwanegu pan fydd wedi ei gwneud]
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 21 Hydref 2024 gan Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni. Cafodd ei basio gan y Senedd ar 20 Mai 2025 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Gorffennaf 2025.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2025 ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.
Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2025.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig
Gweler hefyd yr wybodaeth ynghylch Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.