Skip to main content

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 [diddymwyd]

Roedd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaethau amrywiol er mwyn gwella amddiffyniad amgylchedd hanesyddol Cymru, gan gynnwys:

  • diwygio Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979, yn bennaf mewn perthynas â henebion hynafol yng Nghymru,
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig,
  • diwygio Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 mewn perthynas ag adeiladau rhestredig,
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru,
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio cofnod o’r amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru, a’i gadw’n gyfoes,
  • sefydlu’r Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru. 

Mae Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Cafodd y Ddeddf ei diddymu gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.

Dod i rym

Mae adran 41 o’r Ddeddf yn nodi’r darpariaethau sy’n dod i rym ar ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol; y rhai sy’n dod i rym ddeufis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol; a’r rhai sy’n dod i rym drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

Mae’r gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon hyd yma.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:

Cyflwynwyd y Bil ar 1 Mai 2015 gan Ken Skates AS, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y pryd.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hyn y Bil drwy’r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2).

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig:

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
10 Gorffennaf 2026