Skip to main content

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu a bydd deunydd pellach ar gael cyn hir.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) yn moderneiddio’r fframwaith cyfreithiol o ran defnyddio’r Gymraeg wrth gyflawni gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Mesur yn cynnwys darpariaeth am statws swyddogol y Gymraeg ac yn sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg, sy’n disodli Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Prif nod y Comisiynydd yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ac, ymysg pethau eraill, rhaid iddo ymroi i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae gan y Comisiynydd hefyd y grym i ymchwilio i achosion o ymyrryd honedig â rhyddid yr unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchiadau penodol. Mae panel cynghori yn cefnogi’r Comisiynydd.

Mae’r Mesur yn darparu ar gyfer datblygu safonau ymddygiad sy’n ymwneud â’r Gymraeg i ddisodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg a ddaeth i fodolaeth yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 (‘Deddf 1993’). Dim ond ar y cyrff a enwir neu sydd wedi eu cynnwys o fewn categori a restrir yn y Mesur y gellir gosod gofyniad i gydymffurfio â safonau. Mae Gweinidogion Cymru yn nodi amrediad y safonau y gallai corff gydymffurfio â nhw o fewn rheoliadau.  Caiff y safonau y mae’n rhaid i gorff gydymffurfio â nhw eu nodi o fewn hysbysiad cydymffurfio corff unigol, a gyhoeddir gan y Comisiynydd. Mae’r hysbysiad cydymffurfio hefyd yn nodi erbyn pryd y mae’n rhaid i’r corff gydymffurfio.

Lle y mae gan gorff Gynllun Iaith Gymraeg ar waith o dan Ddeddf 1993, rhaid iddo barhau i gydymffurfio â'r cynllun hwnnw tan y dyddiad a bennir yn hysbysiad cydymffurfio'r Comisiynydd ar gyfer y safonau.

Mae gan y Comisiynydd bwerau i ymchwilio i achosion o dorri safonau a chyflwyno mesurau gorfodi. Mae gan unrhyw gorff sydd o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau, neu unrhyw unigolyn sydd wedi ei effeithio gan fethiant i gydymffurfio â’r safonau, yr hawl i apelio yn erbyn rhai o benderfyniadau’r Comisiynydd. Mae gan y cyrff sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau yr hawl hefyd i herio gorfodaeth y dyletswyddau hynny. Gellir herio penderfyniadau’r Comisiynydd yn y pen draw yn Nhribiwnlys y Gymraeg a grëwyd dan y Mesur.

Mae’r Mesur hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg er mwyn rhoi cyngor a sylwadau i Weinidogion Cymru ynglŷn â’u strategaeth iaith Gymraeg.

Gwnaed y Mesur o dan Ran 3 o'r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006). Mae hyn yn golygu bod rhaid iddo ymwneud â’r materion penodol (ac na all ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r eithriadau) a nodir yn Atodlen 5 i’r Ddeddf honno. Mae Senedd Cymru bellach yn creu Deddfau o dan Ran 4 o GoWA 2006, a’r cyfyngiadau ar gymhwysedd Senedd Cymru erbyn hyn yw’r rheiny a nodir yn Atodlen 7A a 7B. Fodd bynnag, mae’r Mesur ac unrhyw orchmynion neu reoliadau (gan gynnwys rheoliadau sy’n dynodi’r safonau) a wneir o dan y Mesur yn gorfod cydymffurfio â’r cyfyngiadau yn Atodlen 5, gan fod y Mesur wedi ei wneud o dan Ran 3 o GoWA 2006.

Dod i rym

Daeth Rhan 1 ac adran 156 o’r Mesur i rym ar 9 Chwefror 2011, sef y diwrnod y cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol. 

Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Mae'r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 20212021 Rhif 341 (Cy. 95) 17 Mawrth 2021    1 Ebrill 2021Memorandwm Esboniadol
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016
  
2016 Rhif 409 (Cy. 127)  15 Mawrth 2016     31 Mawrth 2016    Memorandwm Esboniadol
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016
           
2016 Rhif 397 (Cy. 124)  15 Mawrth 201621 Mawrth 2016Memorandwm Esboniadol
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016
 
2016 Rhif 183 (Cy. 77)    9 Chwefror 2016      15 Chwefror 2016   Memorandwm Esboniadol 
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012
  
2012 Rhif 990 (Cy. 130)  29 Mawrth 2012       1 Ebrill 2012 Memorandwm Esboniadol
Gorchymyn Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2012
 
2012 Rhif 752 (Cy.102)   7 Mawrth 2012       1 Ebrill 2012 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig, nid yw'r ddolen Cymraeg yn gweithio)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 4 Mawrth 2010 gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog Treftadaeth ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (a elwid bryd hynny yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru) ar 7 Rhagfyr 2010.

Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy'r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd yn dilyn trafodion Cyfnod 2). 

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 9 Chwefror 2011.

Erthyglau neu ddeunydd cysylltiedig

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Mesur y Gymraeg (wefan Comisiynydd y Gymraeg)

Cynlluniau a strategaeth y Gymraeg | Is-bwnc | LLYW.CYMRU
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
25 Ebrill 2024