Canllawiau polisi cynllunio
Gweinidogion Cymru sy'n pennu polisi ac sy'n darparu arweiniad i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru.
Mae polisi cynllunio ar gyfer Cymru i’w weld yn:
- Cynllun Gofodol Cymru (i'w ddisodli gan y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol maes o law)
- Polisi Cynllunio Cymru;
- Polisi Cynllunio Mwynau Cymru.
Mae Polisi Cynllunio Cymru a Pholisi Cynllunio Mwynau Cymru yn cael eu hategu gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol (TANs) a Nodiadau Cyngor Technegol Mwynau (MTANs) yn seiliedig ar bynciau.
Mae cylchlythyrau a llythyrau egluro polisi'n darparu cyngor a chanllawiau ar bynciau penodol.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
08 Mehefin 2021