Skip to main content

Cwynion a Chomisiynwyr

Mae gofyn i awdurdodau lleol sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion am swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys sylwadau sy'n ymwneud â phlant penodol. Nodir y gofynion hyn mewn Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014 ar gyfer plant, a Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 ar gyfer oedolion.

Sefydlwyd swyddfa Comisiynydd Plant Cymru gan Deddf Safonau Gofal 2000 (gweler Rhan V) a’i phrif nod yw diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant yng Nghymru. Gwnaed darpariaeth bellach yn Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001.

Sefydlwyd swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn 2006 gan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a’i swyddogaethau cyffredinol yw hyrwyddo a diogelu buddiannau pobl hŷn yng Nghymru ac annog arferion gorau wrth drin pobl hŷn yng Nghymru.

Mae gan y ddau Gomisiynydd bwerau i gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol ynghylch unrhyw fater sy’n ymwneud â buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, neu unrhyw fater sy’n effeithio ar hawliau a lles plant yng Nghymru.

Yn ogystal, mae gan y Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn bwerau i adolygu’r ffordd y mae buddiannau pobl hŷn a phlant yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo pan fydd cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu swyddogaethau. Yn dilyn adolygiad, mae gan y ddau Gomisiynydd ddisgresiwn i benderfynu p’un ai i gyhoeddi adroddiad yn cynnwys eu canfyddiadau a’u hargymhellion. Lle cyhoeddir adroddiad o’r fath, gallant ofyn am ymateb i’r argymhellion ac os na wneir hynny gellir cyfeirio mater i’r Uchel Lys.

O dan Reoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 a Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007, mae gan y ddau Gomisiynydd bwerau i archwilio achosion plant/pobl hŷn penodol yng Nghymru, os yw’r achosion yn ymwneud â materion sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau neu effaith ar y plant/pobl hŷn dan sylw wrth i gorff cyhoeddus arfer ei swyddogaethau.

Dim ond pan fo cynrychiolaeth, gan y person dan sylw neu ar ei ran/rhan, yn codi cwestiwn o egwyddor sydd ag effaith neu berthnasedd mwy cyffredinol, naill ai i hawliau neu les plant perthnasol neu, i fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru, nag yn yr achos penodol o dan sylw, y bydd y Comisiynwyr yn archwilio achos plentyn/person hŷn penodol.

Wrth gynnal archwiliad, gall y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol i bersonau penodol roi gwybodaeth neu, os ystyrir bod angen, i fod yn bresennol yn bersonol i ddarparu gwybodaeth, esboniad neu gymorth.

Pan fydd Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal archwiliad, rhaid iddo/iddi baratoi datganiad o resymau dros y penderfyniad hwnnw ac anfon copïau ohono i’r person a wnaeth y cyflwyniad mewn perthynas â’r achos ac unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan y Comisiynydd.

Os bydd unrhyw berson neu gorff yn gwrthod cydymffurfio gydag archwiliad, yn gwrthod darparu gwybodaeth mewn cysylltiad ag archwiliad neu egluro sut y byddant yn cydymffurfio â’r argymhellion, gall y Comisiynydd Plant neu’r Comisiynydd Pobl Hŷn, fel sy’n briodol, gyhoeddi tystysgrif i’r Uchel Lys er mwyn iddo edrych ar y mater a gallai hyn arwain at berson neu gorff yn cael ei drin fel pe bai’n dirmygu’r llys.

Wedi i archwiliad ddod i ben, mae’n rhaid i’r Comisiynydd lunio adroddiad yn nodi ei g/chanfyddiadau a’i g/chasgliadau, yn ogystal ag unrhyw argymhellion a wneir. Mae’n rhaid i’r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi a bod ar gael i’w archwilio.

Cyn pen 3 mis, mae’n rhaid i’r person y mae’r argymhelliad yn cael ei wneud yn ei gylch roi gwybodaeth i’r Comisiynydd ynghylch y camau a gymerwyd neu y bwriedir eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r argymhelliad neu, y rheswm dros beidio â chymryd unrhyw gamau.

Gall methiant i ymateb o fewn yr amser penodedig gael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd a ystyrir yn briodol gan y Comisiynydd.
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mehefin 2021