Skip to main content

Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006

Daeth Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Deddf 2006) i rym ar 8 Tachwedd 2006 ac mae'n berthnasol i Gymru a Lloegr.

Mae'r Ddeddf 2006 yn ei hanfod yn darparu system i gyflogwyr wirio addasrwydd cyflogeion neu wirfoddolwyr i weithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed. Diben y Ddeddf yw atal y rheiny a ystyriwyd yn anaddas i weithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed rhag cael ynediad trwy waith (boed yn gyflogedig neu'n ddigyflog). Sefydlwyd y Ddeddf i geisio datrys y methiannau a nodwyd gan Ymchwiliad Bichard yn 2004.

Mae'r Ddeddf 2006 yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y Cynllun Fetio a Gwahardd. Gweinyddwyd y cynllun hwn yn wreiddiol gan yr Awdurdod Diogelu Annibynnol. Fodd bynnag, mae'r Awdurdod Diogelu Annibynnol a'r Swyddfa Cofnodion Troseddol wedi uno ers hynny, gan greu'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn 2012. Y DBS sydd bellach yn gweinyddu'r Cynllun Fetio a Gwahardd. Mae'r DBS yn dyfarnu a ddylid gwahardd unigolyn, er mwyn ei atal rhag gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed neu'r ddau.

Mae adran 2 o'r Ddeddf 2006 yn darparu bod yn rhaid cael rhestr waharddedig ar gyfer plant a rhestr waharddedig ar gyfer oedolion agored i niwed, a gynhelir gan y DBS. Gellir rhoi unigolion ar y naill restr neu'r llall neu'r ddwy. Mae'r rhestrau'n cadarnhau a oes unrhyw reswm pam na all unigolyn weithio gyda'r naill grŵp a'r llall.

Er mwyn cael ei wahardd rhag gweithio gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed, rhaid i unigolyn ymwneud â ‘gweithgaredd a reoleiddir’. Mae gwahaniaeth rhwng gweithgareddau a reoleiddir gyda phlant a gweithgareddau a reoleiddir gydag oedolion agored i niwed. Mae Rhan 1 o Atodlen 4 i'r Ddeddf 2006 yn diffinio ‘gweithgaredd a reoleiddir’ mewn perthynas â phlentyn. Mae Rhan 2 o Atodlen 4 yn diffinio ‘gweithgaredd a reoleiddir’ mewn perthynas ag oedolion agored i niwed.

O dan y Ddeddf 2006, rhaid i grwpiau penodol gyfeirio a darparu gwybodaeth am unigolion i'r DBS. Gosodir y dyletswyddau hyn ar ddarparwyr gweithgareddau a reoleiddir, rhai cyflenwyr personél (busnesau neu asiantaethau cyflogaeth) ac awdurdodau lleol. Mewn amgylchiadau penodol, rhaid i'r grwpiau hyn gyfeirio gwybodaeth at y DBS. Rhaid iddynt hefyd gydymffurfio â cheisiadau gan y DBS am wybodaeth am unigolion.

Mae'r Ddeddf yn creu nifer o droseddau, a ddyluniwyd i atal pobl waharddedig rhag gweithio mewn gweithgareddau a reoleiddir. Gall unigolyn gwaharddedig, sy'n ceisio mynediad i weithio gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed, a'r rheiny sy'n rhoi'r mynediad hwnnw i unigolyn gwaharddedig, gyflawni trosedd. Bydd rhai troseddau yn arwain at waharddiad awtomatig rhag gweithio gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed.

O dan y Ddeddf 2006, caiff rhai unigolion sydd ar restr waharddedig apelio yn erbyn penderfyniad i'w roi ar y naill restr neu'r llall. Yn ogystal â hynny, ar ôl cyfnodau penodol o amser, caiff unigolion yr hawl i apelio i'r DBS i adolygu eu hachos.
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021