Skip to main content

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Cafodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (SSWA 2014) Gydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2014. Daeth mwyafrif ei darpariaethau i rym ar 6 Ebrill 2016. Fodd bynnag, cychwynnwyd rhai o'r ddarpariaethau yn gynt:

  • adran 170 – cychwynnwyd y trefniadau ar y cyd ar gyfer y ddarpariaeth o wasanaethau mabwysiadu a Rhan 10 (adrannau 179 a 180) ar 1 Tachwedd 2014;
  • adrannau 132 a 133 – cychwynnwyd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a Rheoliadau ynglŷn â'r Bwrdd Cenedlaethol ar 21 Hydref 2015.

Mae'r Ddeddf yn cynnwys 200 o adrannau, sydd wedi'u rhannu'n 11 Rhan ac mae tair Atodlen. O ystyried hyd y Ddeddf, mae adran 1 yn cynnwys trosolwg o'r Ddeddf ac yn diffinio sawl term allweddol. Cyhoeddir copi o'r Nodiadau Esboniadol i'r Ddeddf ar legislation.gov.uk.

Dyletswyddau hollgyffredinol

Dyletswydd llesiant

Mae adran 5 o SSWA 2014  yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a llesiant gofalwyr y mae arnynt angen cymorth. Mae’r ddyletswydd llesiant hollgyffredinol yn berthnasol i bob person a chorff sy’n arfer swyddogaethau o dan SSWA 2014 hon, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) ac asiantaethau statudol eraill.

Mae adran 2 o SSWA 2014 yn nodi mai “llesiant”, o ran person, yw llesiant mewn perthynas ag unrhyw un neu rai o’r canlynol—

(a)  iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol;
(b)  amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod;
(c)  addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden;
(d)  perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol;
(e)  cyfraniad a wneir at y gymdeithas;
(f)   sicrhau hawliau a hawlogaethau;
(g)  llesiant cymdeithasol ac economaidd;
(h)  addasrwydd llety preswyl.

O ran plentyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys —
(a)  datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol;
(b)  “lles” fel y diffinnir y term Saesneg cyfatebol “welfare” at ddibenion Deddf Plant 1989.

O ran oedolyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys —
(a)  rheolaeth ar fywyd pob dydd;
(b)  cymryd rhan mewn gwaith.

Dyletswyddau hollgyffredinol eraill

Cyffredinol

Mae adran 6 o SSWA 2014 yn rhoi effaith i egwyddorion allweddol penodol drwy bennu’r materion y mae’n rhaid i berson roi sylw iddynt wrth arfer swyddogaethau o dan SSWA 2014 mewn perthynas ag unigolion a fanylir yn is-adran (1) o'r adran honno. Mae’r ddyletswydd i roi sylw i’r materion hyn yn berthnasol pan fo person yn cael ei asesu i ganfod a oes arno anghenion gofal a chymorth (neu anghenion cymorth o ran gofalwr), yn ogystal â’r adeg pan benderfynir bod gan y person y cyfryw anghenion. Mae’r ddyletswydd i roi sylw i’r materion hyn hefyd yn berthnasol pan fo person yn arfer swyddogaethau o dan Ran 6 o SSWA 2014, sy'n cynnwys darpariaeth ynglŷn â'r swyddogaethau y gellir eu hymarfer mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal( ) neu mewn perthynas â phlant a phobl ifanc eraill, er enghraifft pobl sy’n gadael gofal.

Mae Adran 6 yn nodi’r materion y mae’n rhaid i berson roi sylw iddynt wrth arfer y swyddogaethau penodedig o dan SSWA 2014 mewn perthynas ag unrhyw unigolyn (oedolyn neu blentyn). Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dyletswydd i ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r unigolyn, a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol;
  • dyletswydd i roi ystyriaeth i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas yr unigolyn;
  • dyletswydd i roi ystyriaeth i nodweddion, diwylliant a chredoau’r unigolyn (gan gynnwys, er enghraifft, iaith);
  • dyletswydd i roi ystyriaeth i bwysigrwydd darparu cymorth priodol er mwyn galluogi’r unigolyn i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arno i’r graddau sy’n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig pan fo gallu’r unigolyn i gyfathrebu wedi ei gyfyngu am unrhyw reswm.

Mae adran 6 hefyd yn nodi’r materion ychwanegol y mae’n rhaid i berson roi ystyriaeth iddynt wrth arfer y swyddogaethau penodedig o dan SSWA 2014 mewn perthynas ag oedolion a phlant. Mewn perthynas ag oedolion, mae hyn yn cynnwys dyletswydd i roi ystyriaeth i bwysigrwydd dechrau gyda’r rhagdybiaeth mai’r oedolyn sydd yn y sefyllfa orau i farnu llesiant yr oedolyn a dyletswydd i roi ystyriaeth i bwysigrwydd hyrwyddo annibyniaeth yr oedolyn pan fo’n bosibl. Mewn perthynas â phlentyn, mae hyn yn cynnwys dyletswydd i roi ystyriaeth i bwysigrwydd hyrwyddo magwraeth y plentyn gan deulu’r plentyn, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn. Pan fo’r plentyn o dan 16 oed, mae yna ddyletswydd hefyd i ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn ac yn rhesymol ymarferol.

Egwyddorion a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig

Mae adran 7 o SSWA 2014 yn cynnwys dwy ddyletswydd. Mae’r ddyletswydd gyntaf yn berthnasol i bersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas ag oedolion y mae arnynt anghenion gofal a chymorth, neu ofalwyr y mae arnynt anghenion cymorth. Y ddyletswydd yn y cyswllt hwn yw rhoi sylw dyladwy i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn (a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 16 Rhagfyr 1991).

Mae’r ail ddyletswydd yn berthnasol i bobl sy’n arfer swyddogaethau o dan SSWA 2014 mewn perthynas â phlant y mae arnynt anghenion gofal a chymorth, gofalwyr plant y mae arnynt anghenion cymorth, a phobl y mae swyddogaethau yn cael eu harfer mewn perthynas â nhw o dan Ran 6 o'r Ddeddf (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya). Y ddyletswydd yn y cyswllt hwn yw rhoi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (fel y'i mabwysiadwyd gan y Cynulliad Cyffredinol ar 20 Tachwedd 1989.

Mae adran 6(3) o SSWA 2014 yn mynnu y dylid trin Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel pe bai’n cael effaith fel y nodir yn Rhan 1 o'r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ac yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu gymal cadw a osodir am y tro yn Rhan 3 o'r Atodlen honno. Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd eisoes i roi ystyriaeth i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, gan gynnwys ei Brotocolau Dewisol, wrth arfer eu swyddogaethau: mae’r ddyletswydd hon yn deillio o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Ystyr "rhoi sylw"

Yng nghyd-destun y dyletswyddau hollgyffredinol yn Rhan 2 o SSWA 2014, mae gofyniad i “roi sylw” i fater penodol yn debyg i ofyniad i ystyried y mater hwnnw.

Rhagor o wybodaeth

Mae SSWA 2014 yn cynnwys 200 o adrannau, a rannwyd yn 11 o Rannau, ac mae tair Atodlen. O ystyried hyd y Ddeddf, mae adran 1 yn cynnwys trosolwg o'r Ddeddf ac yn diffinio sawl term allweddol.

Mae rhagor o wybodaeth am SSWA 2014 ar gael ar dudalennau pwnc perthnasol y wefan hon.

Hefyd, mae gwybodaeth am y Ddeddf ac adnoddau dysgu ar gael ar Hyb Gwybodaeth a Dysgu Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mehefin 2021