Gofal cymdeithasol - trosolwg
Mae lles cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, wedi ei ddatganoli yn gyffredinol yng Nghymru. Mae gan Weinidogion Cymru swyddogaeth oruchwylio gyffredinol yn y system bresennol o ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn ogystal â meddu ar swyddogaethau arolygu, mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd o dan adran 8 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i gyhoeddi datganiad ynglŷn â llesiant y rhai sydd ag anghenion gofal a chymorth. Rhaid i'r datganiad fanylu'r canlyniadau sydd angen eu cyflawni ar gyfer y bobl hynny a'r mesurau y gellir eu defnyddio i asesu cyflawniad. Hefyd, o dan adran 9, rhaid i Weinidogion Cymru roi cod at y diben hwn a all roi arweiniad i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau gofal a chymorth ac a all osod gofynion ar awdurdodau lleol. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer o dan adran 12 i wneud unrhyw beth y maent yn ei ystyried yn debygol o helpu awdurdod lleol i gydymffurfio â gofynion a osodwyd gan god o dan adran 9.
Hefyd, mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC), a gymerodd swyddogaethau Cyngor Gofal Cymru fel rheoleiddiwr y gweithlu gofal cymdeithasol o fis Ebrill 2017 ymlaen, rôl gyffredinol o ran gwasanaethau gofal a chymorth.
Mae adran 68 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol bod GCC, wrth gynnal ei swyddogaethau, yn cyflawni'r amcan o warchod, hybu a chynnal diogelwch a llesiant y cyhoedd yng Nghymru. Hefyd, mae’n ofynnol iddo gyflawni ei swyddogaethau gyda golwg ar hybu a chynnal safonau uchel yn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal a chymorth yn ogystal ag mewn ymddygiad ac ymarfer gweithwyr gofal cymdeithasol.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau cyffredinol o dan adran 60 o’r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i hybu neu wella llesiant cymdeithasol pobl Cymru. Mae'r pŵer hwn yn cynnwys pŵer i dalu grantiau. Yn ogystal â hynny, mae gan Weinidogion Cymru ragor o bwerau penodol i ddarparu grantiau i unrhyw berson i hybu lles plant a'u rhieni, i helpu rhieni i fagu eu plant (adran 14 o’r Ddeddf Addysg 2002), ac i dalu cost hyfforddiant gofal plant neu gyfrannu at y gost honno neu ddarparu llety mewn cartrefi i blant (adran 82 o’r Ddeddf Plant 1989).
Gwnaed newidiadau i'r cyfreithiau ar ofal cymdeithasol yng Nghymru ar 6 Ebrill 2016. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gwneud newidiadau pwysig i’r ffordd mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu, yn bennaf drwy hybu annibyniaeth pobl er mwyn rhoi llais cryfach a rheolaeth iddynt. Mae'r Ddeddf yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau ataliol a fydd yn oedi, yn lleihau neu’n atal yr angen am ofal a chymorth. Mae’r Ddeddf yn rhoi set wedi’i diweddaru o ddyletswyddau a swyddogaethau i awdurdodau lleol mewn perthynas â gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth.
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cyflwyno trefn reoleiddio newydd ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, a hefyd wedi diwygio’r system o reoleiddio’r rhai sy’n gweithio yn y sector ac sy’n darparu gofal i blant neu oedolion sy’n agored i niwed.