Skip to main content

Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub

Mae gan Weinidogion Cymru rôl o ran cyfeiriad strategol y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. O dan adran 21 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Deddf 2004), rhaid i Weinidogion Cymru baratoi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub a’i adolygu ar ol ymgynghoriad. Rhaid i’r Fframwaith nodi blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer awdurdodau tân ac achub, a gall gynnwys canllawiau’n ymwneud â chyflawni eu swyddogaethau a materion eraill sy’n gysylltiedig ag awdurdodau tân ac achub.

Dim ond pan gaiff ei ddwyn i rym gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn y mae’r fframwaith yn effeithiol. Y fframwaith presennol yw Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2016 a ddisodlodd y fframwaith blaenorol a gyhoeddir yn 2012 (gweler y Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) ac yr Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) (Adolygu) (Rhif 2) 2015.

Rhaid i awdurdodau tân ac achub gydymffurfio â’r Fframwaith Cenedlaethol wrth gyflawni eu swyddogaethau (adran 21(7) o Ddeddf 2004) a gall Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiad o gydymffurfiaeth awdurdod â’r gofyniad hwn (gweler Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, adran 24).

Rhaid i Weinidogion Cymru (o dan adran 25 a 62(2) o Deddf 2004) gyhoeddi adroddiad ar y graddau y mae awdurdodau tân ac achub yn gweithredu yn unol â’r fframwaith ac am unrhyw gamau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau bod awdurdodau tân ac achub yn gweithredu’n unol ag ef. O dan adran 22, mae gan Weinidogion Cymru bŵer i orchymyn yr awdurdod i gymryd camau penodol os ydynt o’r farn bod yr awdurdod yn methu, neu’n debyg o fethu, â gweithredu yn unol â’r Fframwaith.

O dan adran 26 o Ddeddf 2004, rhaid i awdurdodau tân ac achub, yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru, roi unrhyw adroddiadau, ffurflenni a gwybodaeth iddynt mewn perthynas â’u swyddogaethau.

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mehefin 2021