Gwasanaethau tân ac achub
Mae gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru yn cael eu darparu gan y tri awdurdod tân ac achub, sy’n cwmpasu Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru a De Cymru. Eu swyddogaethau craidd yw hyrwyddo diogelwch tân, ymladd tân, ac ymateb i ddamweiniau traffig ar y ffyrdd ac argyfyngau eraill. Mae Gweinidogion Cymru yn arfer y rhan fwyaf o’r pwerau gweithredol mewn perthynas â gwasanaethau tân ac achub. Maent yn gosod y blaenoriaethau a’r amcanion ar gyfer awdurdodau tân ac achub ac yn cyhoeddi canllawiau ynghylch sut y mae’n rhaid iddynt weithredu’r swyddogaethau hynny.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
05 Hydref 2021