Awdurdodau tân ac achub
Er bod y Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 (Deddf 1947) wedi ei diddymu erbyn hyn, mae rhai o'i threfniadau (fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 yn parhau i fodoli. Mae adran 4 o'r Ddeddf 1947 yn cynnwys darpariaeth mai’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yw’r awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru.
Roedd adran 6 o'r Ddeddf 1947 yn caniatáu ar gyfer creu awdurdodau tân cyfun dan orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol. Ym 1995 cafodd gorchymynion eu gwneud gan greu tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru: Awdurdod Tân Gogledd Cymru, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Awdurdod Tân De Cymru. (Gweler Gorchymyn Gwasanaethau Tân Gogledd Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995, Gorchymyn Gwasanaethau Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995 a’r Gorchymyn Gwasanaethau Tân De Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995.)
Cafodd y Ddeddf 1947 ei diddymu a’i disodli gan y Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ("FRSA 2004") a ddarparodd mai’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yw’r awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal. Cafodd y gorchmynion cyfun a wnaed dan y Deddf 1947, fodd bynnag, eu hachub gan adran 4 o FRSA 2004 ac felly maent yn parhau mewn grym.
O’r herwydd, y cyrff a sefydlwyd yn sgil gorchmynion cyfun a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol ym 1995 yw’r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru o hyd:
- Awdurdod Tân Gogledd Cymru,
- Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru,
- Awdurdod Tân De Cymru.
Mae’r gorchmynion cyfun yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chyfansoddiad pob awdurdod, a phenodiad ei aelodau. Maent hefyd yn sefydlu brigâd dân a chronfa gwasanaeth tân cyfunedig ar gyfer pob ardal ac yn darparu ar gyfer gweinyddu cyllid yr awdurdod.
Mae FRSA 2004 yn cyflwyno swyddogaethau craidd yr awdurdodau tân ac achub ac yn cynnwys gwneud darpariaeth ar gyfer diffodd tân sy’n cynnwys, ymhlith pethau eraill, darparu staff personél, gwasanaethau a chyfarpar angenrheidiol yn effeithlon i fodloni’r holl ofynion arferol, a gwneud trefniadau ar gyfer ymdrin â galwadau am gymorth. Mae'r swyddogaethau eraill yn cynnwys gwneud darpariaeth i hyrwyddo diogelwch tân, diffodd tân, diogelu bywyd ac eiddo pan fo tân ac achub pobl mewn damweiniau ffyrdd.
Mae Gweinidogion Cymru yn arfer rhai o’r swyddogaethau yng Nghymru. Mae ganndynt bŵer i ganiatáu awdurdodau tân ac achub cyfun.
Rhaid i Weinidogion Cymru, dan FRSA 2004, baratoi ac adolygu Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub. Rhaid i’r Fframwaith gyflwyno blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer yr awdurdodau tân ac achub, a gall gynnwys canllawiau’n ymwneud â chyflawni eu swyddogaethau a materion eraill sy’n ymwneud ag awdurdodau tân ac achub fel sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.