Skip to main content

Gwasanaethau tân ac achub - beth sydd wedi ei ddatganoli?

Mae cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru wedi’i nodi yn y Ddeddf Llywodraeth 2006 (GoWA 2006), wedi'i diwygio gan y Ddeddf Cymru 2017.

Yn gyffredinol, mae'r gyfraith o ran gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru wedi'i datganoli i Senedd Cymru. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol o rai cymalau cadw: mae pwnc Rhan 1 y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 wedi'i gadw yn ôl. Mae hwn yn cynnwys prosesau rhagofalon tân, rhagofalon tân o ran petrolewm a gwirod petrolewm, a diogelwch tân ar longau a hofranlongau, mewn mwyngloddiau a gosodiadau ar y môr. Mae’r holl agweddau eraill ar ddiogelwch tân yng Nghymru, gan gynnwys rheoleiddio ac atal, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.  

Datganoli pŵer gweithredol

Darparodd y Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau oddi wrth weinidogion llywodraeth y DU i (ar y pryd) Cynulliad Cenedlaethol Cymru. O dan GoWA 2006, trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru. Gweinidogion Cymru sydd bellach yn arfer y rhan fwyaf o’r pwerau deddfwriaethol gweithredol ac is-ddeddfwriaethol mewn perthynas â llywodraeth leol, boed y pwerau hynny’n cael eu rhoi gan Ddeddf Senedd Cymru neu Ddeddf Senedd y DU.

O ganlyniad i drosglwyddo swyddogaethau, dylid darllen statudau a ddeddfwyd cyn cychwyn GoWA 2006 (ym mis Mai 2007) gyda gofal. Bellach, bydd cyfeiriadau at ‘yr Ysgrifennydd Gwladol’ yn golygu ‘Gweinidogion Cymru’ o’u defnyddio mewn perthynas â Chymru yn y rhan fwyaf o achosion, er nad ym mhob achos. Lle y rhoddwyd swyddogaethau penodol i (ar y pryd) Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Ddeddfau Senedd y DU rhwng 1999 a 2007, dylid darllen y swyddogaethau fel rhai arferadwy gan Weinidogion Cymru.

Yn aml, bydd deddfwriaeth a basiwyd yn dilyn deddfiad GoWA 2006 sy’n rhoi swyddogaethau i’r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru yn cyfeirio at y cyrff hynny gyda’i gilydd fel ‘yr awdurdod cenedlaethol priodol’. Mae swyddogaeth sy’n arferadwy gan yr awdurdod cenedlaethol priodol mewn perthynas â Chymru fel arfer yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

Deddfwriaeth tân ac achub allweddol
Rhestr o ddeddfwriaeth sylfaenol ac israddol allweddol
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
06 Hydref 2021