Skip to main content

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yn gwneud darpariaeth ynghylch:

  • cyfrannu at ddileu tlodi plant; 
  • gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant; 
  • trefniadau ar gyfer cyfranogiad plant mewn penderfyniadau awdurdodau lleol a allai effeithio arnynt;
  • gwarchod plant a gofal dydd i blant;
  • sefydlu timau a byrddau integredig cymorth i deuluoedd;
  • gwella safonau mewn gwaith cymdeithasol i blant a phobl sy’n gofalu amdanynt; 
  • asesu anghenion plant lle mae eu rhieni angen gwasanaethau gofal cymunedol neu os oes ganddynt gyflyrau iechyd sy’n effeithio ar anghenion y plant.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Dod i rym

Daeth adrannau 1 i 3 a 74 i 76 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 10 Ebrill 2010), yn unol ag adran 75(1).

Daeth paragraffau 19 i 20 o Atodlen 1 i rym ar 10 Chwefror 2010, sef y diwrnod y cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol, yn unol ag adran 75(2).

Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 75(3). 

Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-deddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan y Mesur

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 20222022 Rhif 1188 (Cy. 244)   14 Tachwedd 2022    6 Rhagfyr 2022    Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 (dirymwyd)     2022 Rhif 1066 (Cy. 224)  17 Hydref 20226 Rhagfyr 2022   Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 20212021 Rhif 1364 (Cy. 359)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 2021Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 20212021 Rhif 1361 (Cy. 357)    1 Rhagfyr 2021     3 Rhagfyr 2021    Memorandwm Esboniadol
Gorchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016    2016 Rhif 98 (Cy. 47)  27 Ionawr 20161 Ebrill 2016    Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 20162016 Rhif 96 (Cy. 45)   27 Ionawr 20161 Ebrill 2016  Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 20162016 Rhif 87 (Cy. 41)    27 Ionawr 2016    1 Ebrill 2016    Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 20122012 Rhif 2555 (Cy. 279)6 Hydref 20122 Tachwedd 2012Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 20122012 Rhif 205 (Cy. 35)30 Ionawr 201228 Chwefror 2012Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 20122012 Rhif 204 (Cy. 34)30 Ionawr 201228 Chwefror 2012Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 20122012 Rhif 202 (Cy. 33)30 Ionawr 201228 Chwefror 2012Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau'r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 20112011 Rhif 675 (Cy. 98)7 Mawrth 20116 Ebrill 2011Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) (Diwygio) 20112011 Rhif 191 (Cy. 36)29 Ionawr 20111 Mawrth 2011Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010    2010 Rhif 2839 (Cy. 233)    25 Tachwedd 20101 Ebrill 2011 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Arolygu a Gwybodaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol)(Cymru) 2010
 
2010 Rhif 2575 (Cy.215) 20 Hydref 2010    1 Ebrill 2011    Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010
      
 2010 Rhif 2574 (Cy. 214) 20 Hydref 2010    1 Ebrill 2011    Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 20102010 Rhif 1703 (Cy. 163)   28 Mehefin 2010 30 Gorffennaf 2010    Memorandwm Esboniadol (heb fod ar gael)
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 20102010 Rhif 1701 (Cy. 162)24 Mehefin 20101 Medi 2010Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 20102010 Rhif 1700 (Cy. 161)24 Mehefin 20101 Medi 2010Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 20102010 Rhif 1690 (Cy. 159)24 Mehefin 20101 Medi 2010Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth 

Cyflwynwyd y Mesur ar 2 Mawrth 2009 gan Brian Gibbons AC, sef y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 10 Tachwedd 2009.

Mae mwy o wybodaeth am y Mesur ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Mesur drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Chwefror 2010.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
09 Mai 2024