Skip to main content

Claire Petricca-Riding

Claire yw Pennaeth y Tîm Cynllunio a'r Amgylchedd sy'n dîm o 12 o gyfreithwyr cynllunio ac amgylcheddol arbenigol sy'n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau ledled y DU.

Dros y 18 mlynedd diwethaf ers cymhwyso, mae Claire wedi adeiladu enw da am ymgymryd â gwaith amgylcheddol a chynllunio dadleuol a heb fod yn ddadleuol.

Y dyddiau hyn mae Claire yn rhannu ei hamser rhwng materion amgylcheddol a chynllunio ar draws ystod o sectorau sy'n cynnwys: 

  • datblygiadau preswyl ar gyfer adeiladwyr sy’n codi tai ar raddfa fawr  
  • datblygiadau preswyl mwy pwrpasol  
  • adeiladu ar gyfer rhentu  
  • llety myfyrwyr 
  • datblygiadau masnachol 
  • rheoli gwastraff 
  • ynni morol ac adnewyddadwy.  

Mae hyn yn rhoi'r arbenigedd technegol i Claire reoli materion cynllunio ac amgylcheddol cymhleth a heriol.

Mae Claire yn ysgrifennu erthyglau ar faterion cynllunio ac amgylcheddol yn rheolaidd ac mae’r rhain wedi ymddangos yn yr ENDS Report, Estates Gazette, Property Week a'r Property Law Journal. Mae hefyd wedi ymddangos ar bodlediadau (50 Shades of Planning ac Irwin Mitchell) yn ogystal â bod yn feirniad ar gyfer Menywod Dylanwadol y Planner 2022 a'i henwi fel un o'r 100 o weithwyr amgylcheddol proffesiynol gorau gan ENDS yn ei Restr Pŵer gyntaf. 

Cyhoeddwyd gyntaf
14 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd diwethaf
18 Gorffennaf 2023

Cyfraniadau