Skip to main content

Jessica Hayward

Mae Jessica yn gyfreithiwr yn y tîm eiddo tiriog yn Capital Law, lle mae'n gweithio i amrywiaeth o gleientiaid – gan gynnwys darparwyr tai cymdeithasol, addysg bellach/uwch a thenantiaid masnachol.

Mae gan Jessica arbenigedd arbennig mewn gweithredu ar ran landlordiaid a thenantiaid ar amrywiaeth o brydlesi, trwyddedau, cytundebau ac aseiniadau.

Capital Law

Mae Capital Law yn gwmni cyfraith fasnachol. Rydym yn gweithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda sefydliadau o bob maint – o gorfforaethau mawr i'r rhai sy'n dechrau – ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Ar draws ein pedair prif adran (corfforaethol a masnachol, cyflogaeth, anghydfodau masnachol ac eiddo tiriog), mae ein cyfreithwyr yn darparu'r holl wasanaethau cyfreithiol sydd eu hangen arnoch i redeg eich busnes yn ddidrafferth.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'n chwaer fusnes ymgynghori, Capital People, sy'n arbenigo mewn datblygu sefydliadol, adnoddau dynol ac iechyd a diogelwch.
 

Cyhoeddwyd gyntaf
12 Awst 2021
Diweddarwyd diwethaf
12 Gorffennaf 2023

Cyfraniadau