Skip to main content

Amaethyddiaeth a garddwriaeth - beth sydd wedi ei ddatganoli?

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol i basio deddfau yn ymwneud ag amaethyddiaeth, garddwriaeth, iechyd a lles anifeiliaid a datblygu gwledig.  

Fodd bynnag, mae cyfyngiadau pwysig ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn y meysydd hyn a geir yn Atodlen 7A i'r, Deddf Llywodreath Cymru 2006. Nid oes gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol i basio deddfau ar bynciau sy’n dod o dan unrhyw un o'r cymalau cadw canlynol:

  • hela â chŵn;
  • gweithdrefnau ar anifeiliaid byw at ddibenion gwyddonol neu addysgol;
  • cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol, gan gynnwys gweithgynhyrchu, awdurdodiadau i'w defnyddio a rheoleiddio prisiau;
  • bwydydd anifeiliaid, mewn perthynas â'r canlynol:
    • cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol neu ychwanegion bwyd anifeiliaid penodedig o’u mewn;
    • materion yn codi o ganlyniad i gynnwys cynhyrchion o'r fath.
  • awdurdodi meddyginiaethau milfeddygol a chynnyrch meddyginiaethol.
  • gwahardd a rheoleiddio mewnforion ac allforion, ar wahân i'r canlynol:
  • gwahardd a rheoleiddio bwyd, planhigion ac anifeiliaid sy'n cael eu mewnforio a'u hallforio o Gymru yn ogystal â phethau cysylltiedig at y dibenion canlynol—
    • gwarchod iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid neu'r amgylchedd, neu  
    • arsylwi neu weithredu rhwymedigaethau o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin,  
  • gwahardd a rheoleiddio bwydydd anifeiliaid, gwrteithiau neu blaladdwyr (neu bethau a gaiff eu trin yn rhinwedd deddfiad fel plaladdwyr) sy'n cael eu mewnforio a'u hallforio o Gymru at ddibenion gwarchod iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion neu'r amgylchedd.  (ni eithrir gwahardd a rheoleiddio at ddibenion gwarchod rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl, ac felly fe'u cedwir yn ôl.)

Nid yw'r rhestr hon o gymalau cadw yn gyflawn ac mae cyfyngiadau pellach ar gymhwysedd Senedd Cymru i basio deddfau mewn perthynas ag amaethyddiaeth, garddwriaeth, iechyd a lles anifeiliaid a datblygu gwledig a nodir yn Rhan I o Atodlen 7A i’r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Cyfraith yr UE

Mae llawer o Reoliadau a Chyfarwyddebau yn cael eu gwneud gan yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas ag amaethyddiaeth a garddwriaeth.

Mae Rheoliadau'r UE ar waith yn y DU, ac felly yng Nghymru, heb yr angen am unrhyw ddeddfwriaeth bellach (gweler adran 2(1) o’r Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972). Yn aml, fodd bynnag, nid yw Rheoliadau’n rhoi hawliau i unigolion y gellir eu cynnal yn erbyn unigolion eraill neu yn erbyn y Wladwriaeth. Felly, gall fod angen i Weinidogion Cymru, neu Lywodraeth y DU, wneud is-ddeddfwriaeth i weithredu’r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Er enghraifft, rhaid i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth i roi eu cynigion ar waith er mwyn gweithredu’r Rheoliadau o Senedd Ewrop a Chyngor yr UE ar y polisi amaethyddol cyffredin yng Nghymru.

Mae Cyfarwyddebau’r UE yn rhwymo Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd y maent yn berthnasol iddynt o ran y canlyniad sydd i’w gyflawni, ond yn gadael i bob Aelod-wladwriaeth ddewis sut y bydd yn gweithredu’r Gyfarwyddeb. Felly, bydd angen i Weinidogion Cymru, neu Lywodraeth y DU, neu Ysgrifennydd Gwladol weithredu, a gallai hynny gynnwys gwneud is-ddeddfwriaeth, i weithredu’r Cyfarwyddebau yng Nghymru. Er enghraifft, mae Gweinidogion Cymru wedi deddfu i weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (OJ Rhif L175, 5.7.85, t40) ar asesu effeithiau rhai prosiectau cyhoeddus a phreifat ar yr amgylchedd (fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/35/EC (OJ Rhif L156, 25.6.03, t17).

Dynodi at ddibenion adran 2(2) o’r Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972

Pan fo Gweinidogion Cymru, neu Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU, yn bwriadu cymryd camau i roi cyfraith yr UE ar waith yng Nghymru, mae’n rhaid iddynt yn gyntaf fod wedi’u ‘dynodi’ drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wneir o dan adran 2(2) o Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 fel rhai sydd â’r pŵer i roi camau ar waith mewn perthynas ag agwedd benodol ar gyfraith yr UE.

Mae nifer o Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor wedi’u gwneud sy’n dynodi Gweinidogion Cymru fel rhai sydd â’r pŵer i roi camau ar waith mewn perthynas â meysydd penodol o gyfraith yr UE sy’n ymwneud â Chymru. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys:

Mae’r dynodiadau hyn yn amodol ar nifer o gyfyngiadau.

Gan weithredu o dan y dynodiadau hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud offerynnau statudol i roi cyfraith yr UE ar waith yng Nghymru.

Ers i Ddeddf Cymru 2017 ddod i rym, mae gan Weinidogion Cymru ddynodiad cyffredinol o dan adran 58B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Effaith hyn yw bod Gweinidogion Cymru yn gyffredinol yn cael eu trin fel petaent wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ar gyfer meysydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Pwerau gweithredol

Gall Gweinidogion Cymru arfer ystod eang o swyddogaethau gweithredol mewn perthynas ag amaethyddiaeth, garddwriaeth, iechyd a lles anifeiliaid a datblygu gwledig. Mae’r swyddogaethau hyn wedi’u nodi mewn Deddfau amrywiol gan Senedd y DU ac maent yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth ac i gychwyn erlyniadau.

Yn ogystal â’r swyddogaethau a nodir yn y Deddfau hyn, mae swyddogaethau wedi’u rhoi i Weinidogion Cymru, drwy is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Deddfau hyn.

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan bob un o’r Deddfau hyn (ac eithrio ar gyfer yr Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 a’r Deddf Lles Anifeiliaid 2006) y mae Gweinidogion Cymru yn ymgymryd â hwy yn awr, i Senedd Cymru drwy gyfres o Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae’r Gorchmynion a drosglwyddodd swyddogaethau i Senedd Cymru mewn perthynas ag amaethyddiaeth a garddwriaeth fel a ganlyn:

Yna trosglwyddwyd swyddogaethau Senedd Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, bydd un o Weinidogion y Goron yn dal i allu arfer y swyddogaethau o wneud is-ddeddfwriaeth a drosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan y gorchymyn trosglwyddo swyddogaethau hwn. Mae adran 58, a pharagraff 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, o’i darllen gyda pharagraff 26 o Atodlen 11 y Ddeddf honno, yn darparu bod pŵer un o Weinidogion y Goron i wneud is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei drosglwyddo i Weinidogion Cymru yn parhau i fod yn arferadwy gan Weinidog y Goron (Ysgrifennydd Gwladol) fel pe na bai wedi cael ei drosglwyddo er mwyn:

  • Gweithredu unrhyw rwymedigaeth o eiddo’r Gymuned gan y Deyrnas Unedig,
  • Galluogi unrhyw rwymedigaeth o eiddo’r Gymuned i gael ei rhoi ar waith,
  • galluogi i unrhyw hawliau sydd gan neu a fydd gan y Deyrnas Unedig o dan neu yn rhinwedd Cytuniadau’r Gymuned gael eu harfer, neu
  • ymdrin â materion sy’n deillio o, neu sy’n gysylltiedig ag unrhyw rwymedigaeth neu hawliau o’r fath neu weithrediad adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 .

Mesurau’r Cynulliad

Rhwng mis Mai 2007 a mis Mai 2011, roedd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru'r (ar y pryd) cymhwysedd deddfwriaethol i wneud Mesurau yn unol ag adran 94 o, ac Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Rhoddodd Maes 1 o Atodlen 5 y pŵer i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud Mesurau mewn perthynas â’r mater canlynol:

Mater 1.1

Mae'r diwydiant cig coch, mewn perthynas â–

  • cynyddu effeithlonrwydd neu gynhyrchiant yn y diwydiant;
  • gwella marchnata yn y diwydiant;
  • gwella neu ddatblygu gwasanaethau y mae'r diwydiant yn eu darparu neu y gallent eu darparu i'r gymuned;
  • gwella'r ffyrdd y mae'r diwydiant yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

Dehongli'r maes hwn

Yn y maes hwn ystyr "y diwydiant cig coch" yw'r holl weithgareddau sydd wedi'u cynnwys yn–

  • bridio, cadw, prosesu, marchnata a dosbarthu gwartheg, defaid a moch (yn fyw neu'n farw), a
  • cynhyrchu, prosesu, marchnata, gweithgynhyrchu a dosbarthu cynhyrchion sy'n deillio i unrhyw raddau helaeth o'r anifeiliaid hynny (ar wahân i laeth a chynhyrchion llaeth, gwlân cnu a chudd).

At ddibenion y diffiniad hwn– ystyr "gwartheg" yw anifeiliaid buchol, gan gynnwys bisgedi a byfflo;" moch" yw anifeiliaid porsinau, gan gynnwys baedd gwyllt a moch fferal eraill.

Gwnaed Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 drwy arfer cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol (ar y pryd) o dan Fater 1.1 o Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
24 Mehefin 2021