Amaethyddiaeth a garddwriaeth
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Mae'r gyfraith ar blanhigion wedi’i chynnwys yn neddfwriaeth yr UE, y DU a Chymru. (Ymhlith pethau eraill) mae'n ymdrin â marchnata hadau a deunydd arall ar gyfer lluosogi planhigion (gan gynnwys pecynnu) a rheoli plâu.
Mae'r gyfraith ar iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru wedi’i chynnwys yn neddfwriaeth yr UE, y DU a Chymru. Mae’r ddeddfwriaeth ar iechyd anifeiliaid wedi ei chynllunio i ddileu ac atal lledaeniad achosion o glefydau anifeiliaid a all niweidio pobl, anifeiliaid eraill, masnach a'r economi. Nod y ddeddfwriaeth ar les anifeiliaid yw sicrhau nad yw anifeiliaid yn dioddef poen neu ddioddefaint y gellid eu hosgoi.
Mae'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn bolisi cyffredin ar gyfer pob Aelod-wladwriaeth o’r UE. Mae'n cael ei reoli a'i ariannu ar lefel Ewropeaidd o adnoddau cyllideb flynyddol yr UE. Mae'n cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â materion diogelwch bwyd, newid yn yr hinsawdd a rheolaeth gynaliadwy adnoddau naturiol.
Mae'r adran hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth am Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Mae hon yn Ddeddf Senedd Cymru sydd, ymhlith pethau eraill, yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud gorchmynion ar gyflogau amaethyddol.