Skip to main content

Gweithwyr amaethyddol

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014

Mae Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 yn darparu dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Sefydlwyd y panel i hyrwyddo gyrfaoedd yn y byd amaeth, yn drafftio gorchmynion ar gyflogau amaethyddol i’w cyflwyno gerbron Gweinidogion Cymru ac yn cynghori Gweinidogion Cymru ar faterion eraill yn ymwneud â’r sector amaeth yng Nghymru, fel y bydd yn ofynnol gan y Gweinidogion.

Hefyd, rhoddodd y Deddf 2014 pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchmynion sy’n rhoi swyddogaethau eraill i’r Panel Cynghori.

Yr Isafswm Cyflog Amaethyddol

Mae’r system Isafswm Cyflog Amaethyddol wedi bod ar waith yng Nghymru ers yr Ddeddf Cyflogau Amaethyddol 1948. Hyd at ddiddymu’r ddeddf honno, mae Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Loegr wedi bod yn rheoli’r system a’r bwrdd oedd yn negodi’r cyfraddau cyflog perthnasol a thelerau ac amodau eraill cyflogaeth gweithwyr amaethyddol.

Daeth y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol olaf ar gyfer Cymru a Lloegr a wnaed gan y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol (yr Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012)  i rym ar 1 Hydref 2012. 

Yn dilyn diddymu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol gan yr Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013, cafodd Gorchymyn 2012 ei ddirymu ar 1 Hydref 2013. Fodd bynnag, cafodd ei ddarpariaethau eu cadw mewn perthynas â Chymru gan adran 12 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 tan i orchymyn cyflogau newydd gael ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf 2014. 

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
03 Mehefin 2021