Skip to main content

Polisi Amaethyddol Cyffredin

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Wedi’i lansio ym 1962, bwriad gwreiddiol polisi amaethyddol cyffredin yr UE (PAC) oedd gwella cynhyrchiant amaethyddol, fel bod gan ddefnyddwyr gyflenwad sefydlog o fwyd fforddiadwy ac i sicrhau y gallai ffermwyr yr UE wneud bywoliaeth resymol. Bellach mae’r UE yn defnyddio’r PAC i geisio mynd i’r afael â mwy o heriau mewn perthynas â diogelwch bwyd, newid yn yr hinsawdd a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae’r PAC yn bolisi cyffredin ar gyfer holl Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd. Mae’n cael ei reoli a’i ariannu ar lefel Ewropeaidd o adnoddau cyllideb flynyddol yr UE.

Yn 2010 cyflwynodd Comisiwn yr UE "The CAP towards 2020", a oedd yn amlinellu’r opsiynau ar gyfer dyfodol y PAC ac yn gofyn am farn rhanddeiliaid. Ym mis Mehefin 2013, daethpwyd i gytundeb gwleidyddol ar ddiwygio’r PAC rhwng Comisiwn yr UE, Senedd Ewrop a’r Cyngor.

Arweiniodd hyn at Gyngor Gweinidogion Amaeth yr UE yn mabwysiadu’r pedwar Rheoliad Sylfaenol ar gyfer y PAC diwygiedig yn ffurfiol, a oedd wedi’u cymeradwyo gan Senedd Ewrop, yn ogystal â Rheolau Pontio ar gyfer 2014.

Cyhoeddwyd y pedwar Rheoliad Sylfaenol a’r Rheolau Pontio yn y Cyfnodolyn Swyddogol ar 20 Rhagfyr 2013. Mae’r pedwar Rheoliad Sylfaenol a’r Rheolau Pontio’n cynnwys:

  • Rheoliad (UE) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Rhagfyr, 2013 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1698/2005;
  • Rheoliad (UE) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Rhagfyr, 2013 ar ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (CEE) Rhif 352/78, (CE) Rhif 165/94, (CE) Rhif 2799/98, (CE) Rhif 814/2000, (CE) Rhif 1290/2005 a (CE) Rhif 485/2008;
  • Rheoliad (UE) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Rhagfyr, 2013 yn sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 637/2008 a Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 73/2009;
  • Rheoliad (UE) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Rhagfyr, 2013 sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin y marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol a diddymu Rheoliadau Cyngor (CEE) Rhif 922/72, (CEE) Rhif 234/79, (CE) Rhif 1037/2001 a (CE) Rhif 1234/2007;
  • Rheoliad (UE) Rhif 1310/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Rhagfyr, 2013 sy’n pennu darpariaethau trosiannol penodol ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), yn diwygio Rheoliad (UE) Rhif 1305 / 2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran adnoddau a’u dosbarthiad mewn perthynas â’r flwyddyn 2014 ac yn diwygio Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 73/2009 a Rheoliadau (UE) Rhif 1307/2013, (UE) Rhif 1306/2013 a (UE) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor yng nghyswllt eu defnydd yn y flwyddyn 2014.

Nod datganedig y diwygiadau i’r PAC sydd i’w gweld yn y pedwar Rheoliad Sylfaenol yw cryfhau cystadleurwydd y sector amaeth, hyrwyddo ffermio cynaliadwy ac arloesedd a chefnogi swyddi a thwf mewn ardaloedd gwledig.

Er mwyn gweithredu’r cytundeb gwleidyddol ar ddiwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a gafwyd ym mis Mehefin a Medi 2013 gan Senedd Ewrop, y Cyngor a’r Comisiwn Ewropeaidd yn llawn, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y Rheoliadau Sylfaenol ac wedi gwneud deddfau dirprwyedig.

Gweithredu’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru

Pan oedd y DU yn Aelod-wladwriaeth o'r UE, gweithredwyd y PAC yng Nghymru gan Weinidogion Cymru.

Pan gynigiodd Gweinidogion Cymru, neu Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU camau i roi effaith i gyfraith yr UE yng Nghymru, roedd rhaid iddynt fod wedi cael eu ‘dynodi’ drwy Orchymyn y Cyfrin Gyngor wedi’i wneud o dan adran 2(2) o’r Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 fel rhai sydd â’r pŵer i gymryd camau mewn perthynas ag agwedd benodol ar gyfraith yr UE. Felly, cyn y gall Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau oedd yn angenrheidiol er mwyn rhoi effaith yng Nghymru i Reoliadau Sylfaenol y CAP a’r Rheolau Trosiannol ar gyfer 2014, roedd rhaid i Weinidogion Cymru gael eu dynodi gan Orchymyn y Cyfrin Gyngor i wneud hynny.

Mae nifer o Orchmynion y Cyfrin Gyngor wedi cael eu gwneud sy’n dynodi Gweinidogion Cymru fel rhai sydd â’r pŵer i gymryd camau yng Nghymru mewn perthynas â’r PAC (gweler Gorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (SI 1999/2788); yr Gorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 5) 2010 (OS 2010/2690)).

Yr hyn a alluogodd y PAC i Weinidogion Cymru ei wneud

Fe wnaeth PAC ar gyfer Cymru galluogi Gweinidogion Cymru i ariannu gweithgareddau a oedd yn cynorthwyo ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau gwledig. Roedd yna pedwar maes allweddol yn ceisio annog rheoli amaethyddiaeth a’r amgylchedd yn gynaliadwy;

  • amaethyddiaeth;
  • coedwigaeth, yr amgylchedd a chefn gwlad;
  • y gadwyn gyflenwi ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth;
  • ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig.

O 2015 ymlaen, dwy brif elfen rhoi’r Polisi Amaethyddol Cyffredin ar waith yng Nghymru fydd Cynllun y Taliad Sylfaenol a Rhaglenni Datblygu Gwledig.

Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS)

Mae’r BPS yn talu ffermwyr cymwys ac mae taliadau’n gysylltiedig â’r ardal a gaiff ei ffermio. I hawlio BPS bob blwyddyn, rhaid i ymgeiswyr fod yn ‘ffermwr’ ac yn ‘ffermwr actif’. Dim ond ar dir sy’n gymwys ar gyfer y cynllun ac sydd ‘ar gael iddynt’ ar 15 Mai bob blwyddyn y gall ffermwyr hawlio BPS. Mae’n rhaid iddynt ddatgan yr holl dir amaethyddol sy’n rhan o’u daliad pan fyddant yn gwneud cais am BPS.

O dan y cynllun, rhaid i ffermwyr fodloni’r rheolau ‘gwyrddu’ i dderbyn taliad gwyrdd fel rhan o gyfanswm eu taliad BPS. Rhaid i bob ffermwr sy’n hawlio BPS (a/neu daliadau rhaglen datblygu gwledig) ddilyn rheolau ‘Trawsgydymffurfio’ sy’n egluro wrth ymgeiswyr yr hyn y mae’n rhaid iddynt (ac na ddylent) ei wneud i dderbyn taliadau BPS neu daliadau rhaglen datblygu gwledig.

Mae trawsgydymffurfio yn cynnwys ‘Gofynion Rheoli Statudol’ (SMRs) a ‘Chyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da’ (GAECs). Maent yn ymwneud ag:

  • iechyd y cyhoedd, anifeiliaid a phlanhigion
  • yr amgylchedd, newid hinsawdd a chyflwr amaethyddol da o dir, a
  • lles anifeiliaid.

Er bod llawer o ddarpariaethau fframwaith y BPS i’w gweld yn Rheoliad (UE) 1307/2013 ac yn uniongyrchol gymwys ac yn cael effaith uniongyrchol yng nghyfraith Cymru a Lloegr, mae Gweinidogion Cymru, drwy is-ddeddfwriaeth, wedi deddfu i weithredu rhai agweddau ar y trefniadau ar gyfer talu BPS a gofynion Trawsgydymffurfio a fydd yn gymwys yng Nghymru. Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud yr offerynnau statudol canlynol er mwyn gweithredu’r PAC diwygiedig yng Nghymru:

Y Rhaglenni Datblygu Gwledig

Dywed y Rheoliadau Sylfaenol y gall cymorth gael ei roi o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig tuag at weithrediadau sy’n hyrwyddo datblygu gwledig yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (OS 2014/3222 (Cy 327) (‘y Rheoliadau’) sy’n gymwys i’r Rhaglenni Datblygu Gwledig ("RDP") a sefydlwyd o dan Reoliad (UE) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Rhagfyr, 2013 a Rheoliad (UE) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Rhagfyr 2013. Yng Nghymru, mae'r Rheoliadau hyn yn rheoleiddio’r rhaglenni newydd a weinyddir gan Weinidogion Cymru o dan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae’r Rheoliadau’n ategu deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau ("deddfwriaeth yr UE"). Mae’r darpariaethau yn neddfwriaeth yr UE yn uniongyrchol gymwys ac yn cael effaith uniongyrchol yng nghyfraith Cymru a Lloegr. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu fframwaith cyfreithiol domestig ar gyfer gweithredu deddfwriaeth yr UE yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mehefin 2021