Anifeiliaid
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am reoli a, lle bo’n bosibl, am ddileu clefydau anifeiliaid yng Nghymru i wella iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.
Mae'r gyfraith mewn perthynas ag iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru i’w chanfod yn neddfwriaeth y DU a Chymru.
Iechyd Anifeiliaid
Mae'r UE wedi gwneud rhyw 400 o eitemau unigol o ddeddfwriaeth mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid. Yn ei hanfod, mae'r ddeddfwriaeth wedi ei chynllunio i atal lledaeniad, a chael gwared ar achosion o glefydau anifeiliaid a all niweidio nid yn unig anifeiliaid eraill, ond hefyd pobl yn ogystal â'r economi a masnach yn gyffredinol.
Gellir grwpio’r ddeddfwriaeth a wnaed gan yr UE fel a ganlyn:
- Mesurau ataliol ar fasnach o fewn y Gymuned a mewnforion anifeiliaid byw, semen, ofa ac embryonau a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid;
- Deddfwriaeth ar glefydau anifeiliaid sy’n cynnwys mesurau rheoli i'w rhoi ar waith cyn gynted ag y mae presenoldeb clefyd yn cael ei amau ynghyd â rhaglenni dileu a monitro ar gyfer clefydau sydd eisoes yn bresennol yn yr UE – mae’r clefydau a gwmpesir gan y ddeddfwriaeth hon yn cynnwys Clefyd Affricanaidd y Ceffylau, Clwy Affricanaidd y Moch, Clwy'r Traed a'r Genau, Ffliw Adar, y Tafod Glas, Clwy Clasurol y Moch, Clefyd Newcastle;
- Mesurau adnabod i warantu y gellir olrhain gwartheg, ceffylau, moch, defaid a geifr.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi gan Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wnaed o dan adran 2 (2) yr Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 fel rhai sydd â'r pŵer i gymryd camau mewn perthynas â meysydd penodol o gyfraith yr UE mewn perthynas â Chymru i gynnwys y maes milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd (gweler yr Gorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) 2008 (SI 2008/1792)).
Yn ogystal, gwnaed nifer o Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor sy'n dynodi Gweinidogion Cymru fel rhai sydd â'r pŵer i gymryd camau yng Nghymru mewn perthynas â'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (gweler Gorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (SI 1999/2788); yr Gorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 5) 2010 (OS 2010/2690));
Yr eitemau allweddol o ddeddfwriaeth y DU mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid yw’r Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a’r Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002. Mae'r Deddfau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch rheoli a dileu rhai clefydau anifeiliaid. Yn benodol, mae Deddf 1981 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud gorchmynion i atal lledaeniad clefyd ymysg anifeiliaid. Gwnaed nifer o orchmynion o dan y pwerau hyn (weithiau hefyd gan ddibynnu ar bwerau Gweinidogion Cymru i weithredu o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972) mewn perthynas â Chymru i ddelio ag amrywiaeth o glefydau anifeiliaid, gan gynnwys y Tafod Glas, Clwy'r Traed a'r Genau, Twbercwlosis.
Lles Anifeiliaid
Mae'r UE hefyd wedi deddfu mewn perthynas â lles anifeiliaid. Nod cyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd yw sicrhau nad oes angen i anifeiliaid brofi poen neu ddioddefaint y gellid ei osgoi a bod perchnogion neu geidwaid anifeiliaid yn parchu'r gofynion lleiaf ar gyfer lles anifeiliaid.
Gellir grwpio’r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid a wnaed gan yr UE fel a ganlyn:
- Ar y fferm ac yn benodol, lloi, moch ac ieir dodwy;
- Wrth eu cludo;
- Ar adeg eu cigydda neu eu lladd.
Gosododd Cyfarwyddeb y Cyngor 98/58/EC ar amddiffyn anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio reolau cyffredinol ar gyfer diogelu anifeiliaid o bob rhywogaeth a gedwir at ddibenion cynhyrchu bwyd, gwlân, croen neu ffwr neu at ddibenion ffermio eraill, gan gynnwys pysgod, ymlusgiaid neu amffibiaid.
Mae'r rheolau hyn yn seiliedig ar y Confensiwn Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Anifeiliaid a gedwir at Ddibenion Ffermio. Maent yn adlewyrchu'r hyn a adwaenir fel y 'Pum Rhyddid', a fabwysiadwyd gan y Cyngor Lles Anifeiliaid Fferm, sef:
- Rhyddid rhag newyn a syched - mynediad at ddŵr ffres a deiet ar gyfer iechyd da ac egni,
- Rhyddid rhag anghysur - amgylchedd priodol gyda chysgod a man gorffwys cyfforddus,
- Rhyddid rhag poen, anaf a chlefyd - atal neu driniaeth gyflym,
- Rhyddid i ymddwyn yn naturiol - digon o le a chyfleusterau, cwmni'r un math o anifeiliaid,
- Rhyddid rhag ofn a gofid - amodau a thriniaeth sy'n osgoi dioddef yn feddyliol.
Mae deddfwriaeth yr UE ynghylch amodau lles anifeiliaid fferm yn pennu safonau gofynnol. Gall aelod-wladwriaethau fabwysiadu rheolau mwy caeth ar yr amod eu bod yn gydnaws â darpariaethau'r Cytundeb.
Mae nifer o Ddeddfau allweddol yn y DU mewn perthynas â lles anifeiliaid.
Mae’r Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 yn rhoi diogelwch i 'anifeiliaid a warchodir' a ddiffinnir fel anifeiliaid -
- sydd o fath sydd yn gyffredinol wedi eu dofi yn Ynysoedd Prydain, neu
- sydd dan reolaeth dyn p'un ai ar sail barhaol neu dros dro, neu
- nad ydynt yn byw mewn cyflwr gwyllt.
Mae Deddf 2006 yn ei gwneud yn drosedd i achosi dioddefaint diangen mewn amgylchiadau penodol i anifail a warchodir.
Mae Deddfau eraill y DU yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â lles anifeiliaid a diogelwch, er enghraifft, y Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992 a’r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 neu Ddeddfau’r DU, neu'r ddau, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud gorchmynion a rheoliadau mewn perthynas â lles anifeiliaid, er enghraifft:
- Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 (OS 951 (Cy.92));
- Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 (OS 2014/3266 (Cy. 333));
Sootechneg
Mae'r UE wedi gwneud deddfwriaeth mewn perthynas â hybu masnach rydd mewn anifeiliaid bridio a'u deunydd genetig gan ystyried cynaliadwyedd rhaglenni bridio a chadw adnoddau genetig.
Mae'r ddeddfwriaeth yn ymdrin â materion gan gynnwys cydnabod sefydliadau bridio, cofnodion mewn llyfrau gre neu fuches a thystysgrifau pedigri, profi perfformiad a gwerthusiad genetig, derbyn ar gyfer dogfennau bridio ac adnabod.
Drwy arfer pwerau o dan adran 2(2) o Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, mae offerynnau statudol wedi cael eu gwneud mewn perthynas â Chymru i roi effaith i'r ddeddfwriaeth a wnaed gan yr UE. Er enghraifft, cafodd Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006 (OS 2006/2607 (W 220) eu gwneud i bennu'r meini prawf y mae'n rhaid i sefydliad neu gymdeithas eu bodloni er mwyn cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru at ddiben cadw llyfr gre.