Iechyd planhigion ac amrywiaeth planhigion a hadau
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Mae’r gyfraith sy’n ymwneud ag iechyd planhigion, amrywiadau planhigion a hadau yn rhan o ddeddfwriaeth y UE, DU a Chymru.
Marchnata ac ardystio amrywiadau hadau amaethyddol a llysiau yng Nghymru
Dan ddeddfwriaeth hadau’r y UE, DU a Chymru, os ydych chi eisiau marchnata hadau ardystiedig o rywogaethau amaethyddol a llysiau a gwmpesir gan y ddeddfwriaeth, gallwch ond wneud hynny:
- os yw’r rhywogaeth neu’r amrywiad ar restr genedlaethol,
- os yw’r rhywogaeth neu’r amrywiad wedi’u hardystio’n swyddogol,
- os ydych chi wedi’ch cofrestru i farchnata’r rhywogaeth neu’r amrywiad hynny.
Nod y cynllun hwn ar gyfer marchnata hadau yw sicrhau bod cnydau a hadau o’r radd flaenaf yn cael eu cynhyrchu. Bwriad y broses ardystio hadau yw sicrhau ansawdd er mwyn bodloni safonau penodol yn ymwneud â hadau a chnydau.
Mae rheoliadau marchnata hadau a wnaed gan Weinidogion Cymru yn nodi’r safonau i’w bodloni. Rhaid i hadau a ardystiwyd yn unol â’r cynllun gael eu marchnata mewn pecynnau wedi’u pacio, eu selio a’u labelu’n gywir. Y Sefydliad Botaneg Amaethyddol Cenedlaethol (NIAB) sy’n gyfrifol am ardystio hadau ar ran yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Marchnata hadau
Mae’r UE wedi gwneud sawl Cyfarwyddeb ar farchnata deunydd lluosogi hadau a phlanhigion dros yr hanner can mlynedd diwethaf. Mae’r Cyfarwyddebau hyn yn cynnwys:
- Cyfarwyddeb 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant;
- Cyfarwyddeb 66/402/EEC ar farchnata hadau grawn;
- Cyfarwyddeb 2002/53/EC ar gatalog cyffredin o rywogaethau planhigion amaethyddol;
- Cyfarwyddeb 2002/54/EC ar farchnata hadau betys;
- Cyfarwyddeb 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau;
- Cyfarwyddeb 2002/56/EC ar farchnata tatws had;
- Cyfarwyddeb 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr;
- Cyfarwyddeb 2008/72/EC ar farchnata deunydd lluosogi gwinwydd;
- Cyfarwyddeb 1998/56/EC ar farchnata deunydd lluosogi planhigion addurnol;
- Cyfarwyddeb 92/33/EEC ar farchnata deunydd llysiau, ac eithrio hadau;
- Cyfarwyddeb 2008/90/EC ar farchnata deunydd lluosogi ffrwythau a phlanhigion ffrwythau ar gyfer cynhyrchu ffrwythau;
- Cyfarwyddeb 1999/105/EC ar farchnata deunydd atgynhyrchu coedwig.
Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wnaed dan adran 2(2) o’r Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 yn dynodi mai Gweinidogion Cymru sydd â’r pŵer i gymryd camau ar feysydd penodol o gyfraith yr UE sy’n ymwneud â Chymru i gynnwys y maes sicrhau iechyd planhigion er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd (gweler Gorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) 2008 (SI 2008/1792)).
Hefyd, mae nifer o Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor wedi’u gwneud sy’n dynodi mai Gweinidogion Cymru sydd â’r pŵer i gymryd camau yng Nghymru ar fater y Polisi Amaethyddol Cyffredin (gweler Gorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (SI 1999/2788), ac Gorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 5) 2010 (SI 2010/2690)).
Mae’r Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn rheoleiddio trafodion mewn hadau.
Wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt dan Ddeddf 1964 yn ogystal â’u pwerau i weithredu dan adran 2(2) o Ddeddf 1972, mae Gweinidogion Cymru wedi llunio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012. Mae Rheoliadau 2012 yn gweithredu Cyfarwyddebau’r UE o ran marchnata hadau planhigion porthiant, hadau grawn, hadau betys, hadau llysiau a hadau planhigion olew a ffibr. Hefyd, mae Rheoliadau 2012 yn gweithredu sawl cyfarwyddeb arall mewn perthynas â hadau a phlanhigion, i gynnwys cyfarwyddebau am enwau botanegol ar blanhigion.
Mae Rheoliadau 2012 yn cyflwyno’r categorïau gwahanol o hadau y mae Rheoliadau 2012 yn berthnasol iddynt, yn gorfodi gofynion marchnata’r hadau i gynnwys ardystio, pecynnu, selio a labelu hadau ac yn cynnwys darpariaethau ar drwyddedau i farchnata hadau. Yn anad dim, mae Rheoliadau 2012 yn peri bod torri’r darpariaethau hyn yn fater troseddol.
Rhestr Genedlaethol Amrywiadau
Er mwyn marchnata a chyflwyno’r hadau hyn i’w hardystio dan Reoliadau 2012, rhaid i’r rhywogaethau neu’r amrywiad o hadau yma gael eu cynnwys ar Restr Genedlaethol neu Gatalog Cyffredin yr UE. Nod y system restru yw sicrhau nad oes modd elwa’n fasnachol ar amrywiadau newydd oni bai eu bod yn wirioneddol newydd ac yn welliant ar yr amrywiadau sy’n bodoli’n barod ac eisoes ar werth.
Mae’r Rheoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001 (SI 2001/3510) yn gweithredu ledled y DU i Council Directive 70/457/EEC (OLJ No L225, 12.10.1970, p1) ar gatalog cyffredin o amrywiadau o rywogaethau planhigion amaethyddol a’r elfennau hynny o Council Directive 70/458/EEC (OJ No L225, 12.10.1970, p 7) ar farchnata hadau llysiau sy’n gofyn i Aelod Wladwriaethau greu rhestr genedlaethol o amrywiadau llysiau.
Mae Rheoliadau 2001 yn cynnwys darpariaeth am Restri Cenedlaethol o Amrywiadau Planhigion wedi’u paratoi a’u cyhoeddi yn y Plant Varieties and Seeds Gazettes.
Mae Rhestri Cenedlaethol y DU yn cael eu cadw gan y Variety Rights and Seeds Office sy’n rhan o’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Mae Catalog Cyffredin yr UE yn cael ei lunio o Restri Cenedlaethol yr holl Aelod Wladwriaethau.
Rhestri o gnydau amaethyddol ac amrywiadau llysiau wedi’u cymeradwyo i’w hardystio a’u marchnata yn y DU yw’r Rhestri Cenedlaethol hyn. Mae dwy brif restr o amrywiadau planhigion: amaethyddol a llysiau.
Mae rhestr genedlaethol y llysiau wedi’i rhannu’n amrywiadau pellach:
- rhai sy’n gymwys i’w hardystio a’u marchnata fel hadau safonol neu ardystiedig
- rhai y gellir eu marchnata’n hadau safonol (rhestr ‘B’)
Iechyd Planhigion
Mae amrywiaeth eang o blâu a chlefydau planhigion sy’n gallu achosi difrod i gnydau a phlanhigion os ydynt yn ennill eu plwyf yng Nghymru.
Mae Deddf Iechyd Planhigion 1967 yn cynnwys prif elfen deddfwriaeth y DU mewn perthynas â rheoli’r broses o gyflwyno a lledaenu plâu (sy’n cynnwys pryfed, bacteria, ffyngau ac organebau llysiau ac anifeiliaid eraill, firysau ac asiantau eraill sy’n achosi clefydau trosglwyddadwy mewn cnydau amaethyddol neu arddwriaethol neu mewn coed a pherthi).
Hefyd, mae’r UE wedi deddfu ar gyflwyno a lledaenu plâu. O safbwynt Cymru, gwnaed Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (OS 2006/1643 (W.158)) yn wreiddiol er mwyn gweithredu Cyfarwyddebau canlynol yr UE:
- Cyfarwyddeb 2002/89/EC sy’n gwella Cyfarwyddeb 2000/29/EC ar fesurau diogelu rhag cyflwyno organebau niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion i’r Gymuned a rhag eu lledaenu yn y Gymuned.
- Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/103 ar adnabod a chynnal archwiliadau iechyd planhigion ar blanhigion penodol, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill y gellir eu cynnal mewn man ar wahân i bwynt mynediad i’r gymuned neu rywle gerllaw, a nodi’r amodau sy’n gysylltiedig â’r archwiliadau hyn;
- Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/105/EC sy’n penderfynu ar fathau o dystysgrifau sicrhau iechyd planhigion neu dystysgrifau sicrhau iechyd planhigion ar gyfer ail allforio planhigion cysylltiedig, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o drydydd gwledydd ac sydd wedi’u rhestru yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC;
- Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/16/EC sy’n gwella Atodiadau I i V o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau diogelu rhag cyflwyno organebau niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion i’r Gymuned, a rhag eu lledaenu yn y Gymuned;
- Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/17/EC sy’n gwella darpariaethau penodol o Gyfarwyddeb 92/105/EEC sy’n ymwneud â phasbortau planhigion;
- Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/77 sy’n gwella Atodiad V o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau diogelu rhag cyflwyno organebau niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion i’r Gymuned, a rhag eu lledaenu yn y Gymuned;
- Penderfyniad y Comisiwn 2005/260/EC sy’n cynnwys Penderfyniad Rhif 2/2005 o’r Cydbwyllgor Amaethyddiaeth a sefydlwyd trwy Gytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’r Cydffederasiwn Swisaidd ar fasnach cynhyrchion amaethyddol sy’n ymwneud â gwelliannau i’r Atodiadau i Atodiad 4;
- Penderfyniad y Comisiwn 2005/870/EC sy’n cydnabod bod Bwlgaria yn rhydd o Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al spp sepedonicus (Spieckerman and Kotthoff) Davis et al
- Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/35/EC sy’n gwella Atodiadau I i IV o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau diogelu rhag cyflwyno organebau niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion i’r Gymuned ac yn erbyn eu lledaenu yn y Gymuned.
Mae Gorchymyn 2006 yn gorfodi cyfyngiadau a gofynion ar ddeunydd perthnasol a fewnforiwyd i Gymru o drydydd gwledydd, gan gynnwys deunydd sy’n dod trwy wlad arall yn y Gymuned Ewropeaidd lle cafwyd cytundeb i archwilio’r deunydd hwnnw yng Nghymru.
Ers ei lunio, mae Gorchymyn 2006 wedi’i wella’n rheolaidd er mwyn gweithredu Cyfarwyddebau newydd y Cyngor sy’n cyflwyno mesurau rheoli ar bob math o glefydau.