Bioamrywiaeth
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Mae’r UE wedi sefydlu system o ddynodi ardaloedd cadwraeth arbennig o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, a gaiff ei throi yn ddeddfwriaeth ddomestig gan y Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, sy'n mynnu bod rhaid i'r DU sefydlu ardaloedd cadwraeth arbennig. Maen nhw hefyd dan rwymedigaethau llym penodol i asesu cynlluniau neu brosiectau er mwyn sefydlu beth yw eu heffeithiau ar y safleoedd hynny.
Mae'r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 hefyd yn darparu ar gyfer safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig (hynny yw, darnau o dir sydd wedi eu dynodi oherwydd eu diddordeb arbennig yn sgil eu fflora a’u ffawna, neu eu nodweddion daearyddol neu ffisiograffigol).
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
03 Mehefin 2021