Cadwraeth Natur
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Mae cyfraith cadwraeth natur yn ymwneud yn bennaf â chadwraeth a diogelu anifeiliaid gwyllt, planhigion a chynefinoedd. Mae'n gyfuniad o gyfraith y DU a rhwymedigaethau'r Undeb Ewropeaidd.
Y prif ddarn o ddeddfwriaeth y DU yn y maes hwn yw’r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 sy'n ymwneud â diogelu adar ac anifeiliaid eraill (gan gynnwys darpariaethau ynghylch eu gwerthu a’u lladd), cyflwyno rhywogaethau ymledol (rhywogaethau nad ydynt yn frodorol i'r DU ac sy'n lledaenu) a diogelu planhigion gwyllt (gan gynnwys darpariaethau ynghylch eu casglu a'u gwerthu).
Mae'r Ddeddf hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Mae'r rhain yn ardaloedd sydd o ddiddordeb arbennig oherwydd eu fflora, ffawna, neu nodweddion daearegol neu ffisiograffigol.
Mae Cyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE a Chyfarwyddeb Adar yr UE yn cael eu gweithredu gan y Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a Rhan 1 y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn y drefn honno.
Mae'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn rhan ganolog o bolisi cadwraeth natur yr UE ac wedi ei chreu o amgylch rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig a system o ddiogelu rhywogaethau.
Mae'r Gyfarwyddeb Adar yn creu cynllun cynhwysfawr ar gyfer gwarchod yr holl rywogaethau adar gwyllt sy'n digwydd yn naturiol yn ardal yr UE. Mae'r Gyfarwyddeb yn gwahardd gweithgareddau sy'n bygwth adar yn uniongyrchol (er enghraifft, lladd neu gipio bwriadol, dinistrio eu nythod a chymryd eu hwyau), a gweithgareddau cysylltiedig fel masnachu adar byw neu farw, gyda rhai eithriadau.
Mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â chadwraeth byd natur a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, gwarchod cynefinoedd naturiol, yr amgylchedd morwrol ac arfordirol a bioamrywiaeth.