Skip to main content

Cadwraeth natur - beth sydd wedi ei ddatganoli?

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Mae gan Senedd Cymru gymhwysedd i basio deddfau ar amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud â’r amgylchedd, gan gynnwys cadwraeth natur. Mae hyn yn ddarostyngedig i’r cymalau cadw yn Atodlen 7A i'r Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae gan Weinidogion Cymru amrywiaeth eang o swyddogaethau yn ymwneud â’r pynciau hyn, gan gynnwys swyddogaethau sy’n eu galluogi i wneud is-ddeddfwriaeth. Mae’r rhan fwyaf o’r swyddogaethau hyn yn cael eu rhoi yn uniongyrchol gan ddeddfwriaeth sylfaenol – gan Ddeddfau Senedd y DU, Deddfau’r Cynulliad a Mesurau’r Cynulliad. Fodd bynnag, o dan adran 2(2) o’r Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mae Gweinidogion Cymru wedi’u dynodi i wneud is-ddeddfwriaeth er mwyn gweithredu rhwymedigaethau amrywiol yr UE yn ymwneud â’r amgylchedd.

Mae dynodiadau Gweinidogion Cymru o dan adran 2(2) o’r Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 yn cynnwys dynodiadau sy’n eu galluogi i weithredu dau fframwaith asesu amgylcheddol allweddol yr UE:

  • Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA), a’r
  • Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA).

Ers i Ddeddf Cymru 2017 ddod i rym, mae gan Weinidogion Cymru ddynodiad cyffredinol o dan adran 58B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Effaith hyn yw bod Gweinidogion Cymru yn gyffredinol yn cael eu trin fel petaent wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ar gyfer meysydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mehefin 2021