Skip to main content

Coedwigaeth

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol o ran coedwigaeth, sy'n ddarostyngedig i unrhyw gymalau cadw yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yn hanesyddol, gosodwyd y cyfrifoldebau am goedwigaeth ar y Comisiynwyr Coedwigaeth, adran anweinidogol y llywodraeth a sefydlwyd gan y Ddeddf Coedwigaeth 1919. Yn dilyn datganoli, Comisiynwyr Coedwigaeth Cymru gymerodd y cyfrifoldebau hyn yng Nghymru ar y cychwyn.

Ers 2013 cyflawnwyd swyddogaethau coedwigaeth yng Nghymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae gan CNC ddyletswydd gyffredinol i hybu coedwigaeth, datblygiad coedwigoedd a chynhyrchu a chyflenwi pren a chynhyrchion eraill o goedwigoedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorff statudol a sefydlwyd gan y Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012. Mae ganddo amrywiaeth o swyddogaethau gafodd eu trosglwyddo iddo gan y Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013. Mae'r gorchymyn hwn yn diwygio nifer fawr o ddarpariaethau deddfwriaethol drwy gyfeirio at Cyfoeth Naturiol Cymru yn lle cyfeirio at y Comisiynwyr Coedwigaeth.

Mae'r gyfraith sy'n ymwneud â choedwigaeth yn gyffredinol i'w chanfod yn y Deddf Coedwigaeth 1967. Yn gyffredinol, mae cyfraith coedwigaeth yn ymwneud â datblygu coedwigo (gan gynnwys torri coed), cynhyrchu a chyflenwi pren a chynhyrchion eraill y goedwig, a sefydlu a chynnal a chadw cyflenwad digonol wrth gefn o goed sy'n tyfu. Mae hefyd yn ymwneud â diogelu coed rhag afiechydon a phlâu, sy'n faes a reolir gan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.

Deddfwriaeth coedwigaeth allweddol
Rhestr o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth allweddol

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Hydref 2021