Ailgylchu gwastraff
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Yn ogystal, mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 yn gosod targedau blynyddol cynyddol i awdurdodau lleol Cymru ar gyfer ailgylchu, paratoi i ail-ddefnyddio a chreu compost; mae’n cynnwys pwerau sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wahardd pobl rhag cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff sydd wedi eu nodi mewn safleoedd tirlenwi (heb ei ddefnyddio eto); a phwerau i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bobl sydd wedi eu nodi greu cynlluniau rheoli gwastraff ar gyfer safleoedd (heb ei ddefnyddio eto).
Hefyd yn berthnasol mae:
- Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (a wnaed dan y Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003) sy’n cofnodi faint o wastraff trefol a anfonwyd i’w dirlenwi etc.;
- Gorchymyn Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Diffiniadau) (Cymru) 2011 (a wnaed dan Fesur Gwastraff (Cymru) 2010);
- Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 (a wnaed dan y Mesur Gwastraff (Cymru) 2010).
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021