Gwastraff
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Darperir yn bennaf ar gyfer rheoleiddio gwastraff ar dir gan yr Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (Deddf 1990). Mae Rhan II o'r Deddf yn ymdrin â gwastraff ar dir a Rhan IV yn ymdrin â sbwriel. Yn gyffredinol, mae’r swyddogaethau o dan y Rhannau hyn wedi’u rhoi i Weinidogion Cymru.
Mae Rhan II y Ddeddf 1990 yn nodi pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol o ran casglu a gwaredu gwastraff. Mae hefyd yn cynnwys gwaharddiad ar ollwng gwastraff ar dir heb awdurdod.
Rhan IV o'r Deddff yw'r brif gyfraith sy'n ymwneud â sbwriel yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n ei gwneud yn drosedd i ollwng sbwriel ac yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac eraill i gadw priffyrdd yn glir o sbwriel. Mae rhywfaint o'r gyfraith ynglŷn â sbwriel yn Rhan IV wedi'i diddymu gan Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014. Mae adrannau 92A, 92B, 92C, a 94A, sy'n ymdrin â hysbysiadau i glirio sbwriel, wedi'u diddymu a'u disodli gan ddarpariaethau o dan Ran 4 o'r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014.
Rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 yw'r brif ffordd y mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd ar wastraff yn cael ei gweithredu - er enghraifft, y gyfraith ar dirlenwi a llosgi.
Mae'r Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, targedau ailgylchu ar gyfer awdurdodau lleol Cymru a phwerau i Weinidogion Cymru (na chawsant eu defnyddio eto) i wahardd rhoi mathau penodol o wastraff mewn safleoedd tirlenwi. Pan fydd Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cael ei gweithredu, bydd y pwerau hynny hefyd yn ymestyn i losgi gwastraff.
Mae'r Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ailgylchu gwastraff (yn cynnwys casglu gwastraff ar wahân) a thrin gwastraff bwyd.
Mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â diogelu’r amgylchedd, gan gynnwys materion sy'n ymwneud â gwastraff. Mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw faterion a gedwir yn ôl yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae materion posibl perthnasol a gedwir yn ôl yn y maes yn cynnwys gwahardd a rheoli mewnforion ac allforion (“prohibition and regulation of imports and exports”).